Ffliw Adar wedi'i nodi mewn dofednod ar Ynys Môn
Avian Influenza identified in poultry on Anglesey
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop wedi cadarnhau presenoldeb ffliw adar H5N1 mewn haid fach iard gefn o ieir a hwyaid mewn safle ar Ynys Môn.
Mae Ardal Parth Rheoli Clefydau Dros Dro o 3km a 10km wedi'u gosod o amgylch y safle heintiedig bach, i gyfyngu ar y risg o ledu'r clefyd.
Ystyrir bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac nid yw'r achosion hyn yn peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.
Cafodd achos o ffliw adar ei gadarnhau mewn dofednod ac adar gwyllt ym mwrdeistref Sirol Wrecsam fis diwethaf. Cafwyd canfyddiadau tebyg o ffliw adar yn y DU ac Ewrop.
Ddydd Mercher yr wythnos hon cytunodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyflwyno mesurau lletya newydd i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar. Daw'r mesurau hyn i rym ddydd Llun, 29 Tachwedd.
Cynghorir yn gryf i bob ceidwad fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd megis mwy o farwolaethau neu drafferthion anadlol. Os oes gan geidwaid unrhyw bryderon am iechyd eu hadar, cânt eu hannog i ofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:
"Mae'r cadarnhad hwn o achos o ffliw adar mewn dofednod ar Ynys Môn yn dystiolaeth bellach o'r angen i bob ceidwad adar sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch.
"Rydym wedi cyhoeddi y bydd mesurau lletya newydd yn dod i rym o ddydd Llun nesaf i ddiogelu dofednod ac adar dof, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod hyn ar ei fwyaf effeithiol o'i gyfuno â gweithredu'r mesurau bioddiogelwch llymaf.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud yn glir nad yw'n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.
"Mae parthau rheoli dros dro wedi'u gosod i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.
"Rhaid rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os ydych yn amau ffliw adar neu unrhyw glefyd hysbysadwy arall."
Anogir aelodau o'r cyhoedd i beidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw ac yn hytrach gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i hysbysu’r awdurdodau a chael gwared o adar gwyllt marw ar gael ar: Adrodd a gwaredu aderyn marw | LLYW.CYMRU
Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Prydain Fawr ar gael yma.