English icon English
Penderyn 1-2

Gall Gogledd Cymru gael dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach yn ôl Prif Weinidog Cymru

North Wales can have stronger, greener, fairer future – First Minister

Gall Gogledd Cymru edrych ymlaen at ddyfodol cryfach, gwyrddach a thecach, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw wrth iddo ymweld â'r rhanbarth.

Ymwelodd â Distyllfa Penderyn a agorwyd yn ddiweddar yn Llandudno wrth iddynt baratoi i agor i'r cyhoedd. Bydd teithiau o amgylch y ddistyllfa yn dechrau o 1 Mehefin. 

Derbyniodd y ddistyllfa gwerth £5m gyllid o £1.4m gan gynllun Buddsoddi mewn Twristiaeth a Chynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru.

Ymwelodd hefyd ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Clywodd ragor yno am sut yr oedd yr ardal yn buddsoddi mewn dyfodol mwy cynaliadwy gan gefnogi'r diwydiant twristiaeth hefyd.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i ymweld â Distyllfa Penderyn heddiw, a fydd yn dod yn ffefryn mawr i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.  Mae'n ychwanegiad arloesol a chyffrous i'r atyniadau niferus sydd gan Landudno a Gogledd Cymru i'w cynnig.

 “Mae twristiaeth wastad wedi bod yn bwysig i Ogledd Cymru, ac wrth weld Llandudno heddiw mae'n hawdd gweld pam. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i'r diwydiant, a dyna pam mae gweld y ddistyllfa'n agor yn gam cadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Mae datblygiadau eraill hefyd, fel Gwesty newydd yr Hilton yn Adventure Parc Snowdonia yn Nolgarrog.

“Mae ein tirweddau yn atyniad enfawr i ymwelwyr, ac maent hefyd yn gartref i gymunedau a byd natur lleol. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein Parciau Cenedlaethol a'n AHNE i ddiogelu'r tirweddau gwarchodedig hyn ar gyfer y dyfodol a sicrhau eu bod yn darparu ystod eang o fanteision – o fioamrywiaeth i dwristiaeth gynaliadwy.

“Er bod yr heriau'n parhau, rwy'n benderfynol y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan Ogledd Cymru ddyfodol cryfach a thecach, heb adael unrhyw un ar ôl. Mae gennym raglen o ddatblygiadau cyffrous ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys sefydlu ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru.

 “Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid ar draws y rhanbarth wrth i ni weithio tuag at ddyfodol gwell”.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru, a ymunodd â'r ymweliad hefyd: “Rwy'n falch fy mod wedi cynnal fy ymweliad cyntaf fel Gweinidog Gogledd Cymru, ac mewn lleoliad mor wych. Byddaf yn gweithio ar draws y rhanbarth i fynd i’r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu o ganlyniad i'r pandemig. Wrth edrych tuag at y dyfodol, rwy'n gyffrous am yr holl gyfleoedd a datblygiadau newydd sydd i ddod i Ogledd Cymru.”

Note

The Penderyn Distillery has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-20, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.