Galw am gyfarfod cyllid pedair gwlad gyda'r Canghellor
Calls for four nation finance meeting with the Chancellor
Mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys yn galw am gyfarfod brys gydag ef i drafod amrywiol faterion, gan gynnwys adferiad ariannol o’r Coronafeirws (COVID-19).
Yn dilyn trafodaethau yn Uwchgynhadledd Adfer Covid, mae Gweinidogion yn annog y Canghellor i gael trafodaethau ystyrlon ynghylch rheoli anwadalrwydd cyllidebau yn ystod y flwyddyn, gwarant Barnett, Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws, Adolygiad o Wariant y DU a Chronfa Codi’r Gwastad.
Meddai Rebecca Evans, y Gweinidog cyllid a Llywodraeth Leol:
"Rydym yn galw am gyfarfod brys gyda'r Canghellor i adeiladu ar yr ymrwymiadau a wnaed yn Uwchgynhadledd Adfer Covid y bydd y pedair gwlad yn cydweithio i gefnogi adferiad economaidd.
"Mae'n hanfodol bod y pedair gwlad yn rhannu gwybodaeth ac yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod Cymru a gweddill y DU yn gwella o'r hyn sydd wedi bod yn flwyddyn hynod heriol."
Meddai’r Ysgrifennydd Cyllid Kate Forbes:
"Ochr yn ochr â gweinidogion cyllid Cymru a Gogledd Iwerddon, rwyf wedi ysgrifennu at y Canghellor yn nodi ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i adeiladu ar drafodaethau Uwchgynhadledd Adfer Covid a chydweithio i sicrhau adferiad addas o'r pandemig. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni gyfarfod ar frys â'r Canghellor i drafod materion hollbwysig gan gynnwys eglurder ynghylch y Cynllun Cadw Swyddi ac adolygiad arfaethedig o wariant y DU. Er mwyn sicrhau bod yr Alban a'r DU gyfan yn gwella o'r pandemig ac yn adeiladu economi gynaliadwy, mae angen i'r Canghellor gyfarfod â ni ar frys i drafod y materion hyn."
Meddai y Gweinidog Murphy: "Mae Adolygiad o Wariant Llywodraeth Prydain yn hollbwysig i'r Bwrdd Gweithredol. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Prydain yn darparu cyllideb aml-flwyddyn gan y bydd hyn yn galluogi'r Bwrdd Gweithredol i gynllunio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn strategol.
"Mae hefyd yn bwysig bod yr Adolygiad o Wariant yn sicrhau canlyniad cyllidebol da. Mae angen i ni ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a'r economi wedi’r niwed a achoswyd gan COVID-19. Dim ond wrth adfer drwy fuddsoddi y gellir gwneud hyn.
"Rwy'n edrych ymlaen at drafodaeth adeiladol gyda’r Canghellor a'm cymheiriaid yng Nghymru a'r Alban ar y materion hyn."