English icon English

£1.5m i gefnogi teuluoedd ar incwm is

£1.5m to support families on lower incomes

Mae cyllid nawr ar gael i helpu sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â thlodi plant ledled Cymru.

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau gwerth £1.5m Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu sefydliadau i ffurfio a gwella trefniadau gweithio cydweithredol i fynd i'r afael â thlodi plant.

Mae cyllid blaenorol eisoes yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau lle mae teuluoedd bellach yn llywio eu gwasanaethau eu hunain. Yn Rhondda Cynon Taf, mae prosiect 'Rise Strong' cymdeithas dai Trivallis wedi gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd lleol sy'n gwybod orau pa gymorth sydd ei angen arnynt a sut y dylid ei ddarparu.

Mae trigolion Cae Fardre, nad oedd ganddynt ofod cymunedol o'r blaen, wedi creu canolfan ffyniannus lle mae teuluoedd bellach yn cael cymorth ymarferol gan gynnwys dosbarthiadau coginio ar gyllideb a gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd.

Ym Mhenrhys, mae'r ffocws wedi bod ar ailadeiladu ysbryd cymunedol, gyda theuluoedd yn dod at ei gilydd i greu celf a dysgu sgiliau cyfryngol a chreu gwisgoedd, gan lwyfannu sioe ffasiwn drwy defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu. Mae'r grant wedi galluogi plant ac aelodau o'r gymuned i fwynhau digwyddiadau a gweithgareddau na fyddai wedi digwydd fel arall, gan baratoi'r ffordd ar gyfer adfywiad Carnifal Penrhys.

Dywedodd Jen O'Hara Jakeway, Pennaeth Cynnwys Cymunedol Trivallis; "Mae'r cyllid wedi helpu teuluoedd i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a dod o hyd i ffyrdd o adeiladu ar eu cryfderau i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau eu hunain. Mae bod gyda nhw wrth iddynt gymryd yr awenau a gyrru'r newid hwnnw wedi dysgu cymaint i ni am y potensial yn ein cymunedau."

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae'r cyllid hwn yn rhoi adnoddau’n uniongyrchol lle maen nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i deuluoedd ar incwm is. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag mynd i dlodi a helpu'r rhai sydd angen cymorth fwyaf.

"Ers 2022, rydym wedi buddsoddi bron i £5bn mewn cynlluniau sy'n helpu pobl i fanteisio ar eu hawliau ac yn helpu i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl trwy roi hwb i incwm a chryfhau cymorth ariannol. Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi, gan gynnwys darparu mwy o gyfleoedd cymunedol ar gyfer chwarae, chwaraeon, gweithgareddau ieuenctid a mynediad i'r celfyddydau a diwylliant i blant a theuluoedd."

Gall sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector wneud cais am hyd at £25,000 ar gyfer prosiectau cymunedol a lleol, neu hyd at £125,000 ar gyfer mentrau rhanbarthol sy'n rhychwantu sawl awdurdod lleol.

Rhaid anfon ceisiadau erbyn 13 Ebrill. I gael manylion am sut i wneud cais, ewch i https://www.llyw.cymru/tlodi-plant-grant-arloesi-chefnogi-cymunedau.