£10m i drawsnewid canol trefi a dinasoedd ledled Cymru
£10m to transform town and city centres across Wales
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, wedi sicrhau bod £10m o Gyfalaf Trafodion Ariannol ar gael i ariannu prosiectau adfywio ledled y wlad.
Mae’r rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn cefnogi awdurdodau lleol gyda phrosiectau adfywio canol trefi a dinasoedd ac mae wedi dyrannu mwy na £62m ers lansio yn 2014.
Nod y cynllun yw lleihau nifer y safleoedd ac adeiladau gwag a rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol er mwyn arallgyfeirio ein cynigion yng nghanol trefi a chynyddu nifer yr ymwelwyr.
Mae’r cyllid hefyd yn annog defnydd mwy cynaliadwy ar gyfer eiddo gwag, megis hamdden, gwasanaethau allweddol a throsi’n eiddo preswyl yng nghanol y dref, ac yn helpu i atal rhywfaint o’r gweithgaredd rhag cael ei adleoli i ddatblygiad ar gyrion y dref.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Mae ein rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn gwella’r mannau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio, gan greu ymdeimlad o le a strydoedd mawr bywiog.
“Mae adeiladau gwag a segur yn adnodd sy’n cael ei wastraffu yn ein cymunedau, a bydd ein cyllid canol tref yn creu cyfleoedd gwaith ac yn dod â bywyd yn ôl i’r stryd fawr ac adeiladau wedi'u hanghofio yn galon ganol trefi.
“Rwy’n annog awdurdodau lleol i ddefnyddio’r cyllid hwn ac edrychaf ymlaen at weld eu cynlluniau i greu cyfleoedd gwaith a dod â bywyd yn ôl i’r adeiladau anghofiedig yng nghanol eu cymunedau.”
Mae awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i wneud cais am y benthyciad canol tref i fuddsoddi yn eu cymunedau a chyflawni prosiectau adfywio.
Mae ceisiadau ar gyfer rownd cyllid benthyciad 2024/25 yn cau ar 10 Ionawr 2025.
DIWEDD