
£19 miliwn i gefnogi'r sector Addysg Uwch
£19 million to support the Higher Education sector
Bydd prifysgolion Cymru yn cael eu cefnogi gan fuddsoddiad o £18.5 miliwn i'w helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch, a £500,000 arall i gefnogi recriwtio a hyrwyddo rhyngwladol.
Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu i brifysgolion drwy Medr a'r bwriad yw eu helpu i dalu costau cyfalaf sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw ystadau a phrosiectau digidol i leihau costau gweithredu, gan wella cynaliadwyedd amgylcheddol ar yr un pryd. Bydd hefyd yn sicrhau bod cyfleusterau'n parhau i fod yn addas ar gyfer darparu profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr a chyflawni ymchwil cwbl arloesol.
Mae £500,000 ychwanegol hefyd yn cael ei fuddsoddi yn rhaglen Cymru Fyd-eang, i barhau i gefnogi gweithgareddau recriwtio a hyrwyddo rhyngwladol prifysgolion Cymru.
Dyma'r trydydd hwb ariannol i'r sector yn y flwyddyn ariannol hon, yn dilyn cynnydd yn y terfyn ffioedd dysgu a fydd yn darparu hyd at £21.9 miliwn mewn incwm ychwanegol i brifysgolion y flwyddyn nesaf a'r £10m ychwanegol a gyhoeddwyd yr hydref diwethaf.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
"Mae prifysgolion ledled Cymru yn sefydliadau angori o fewn ein heconomi, ein cymunedau a'n diwylliant. Bydd y cyllid hwn yn cyfrannu at gynaliadwyedd tymor hwy prifysgolion.
"Rwy’ wedi gwahodd yr holl Is-Gangellorion i gyfarfod bwrdd crwn er mwyn cynnal trafodaethau pellach am yr heriau y mae'r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut y gallwn gydweithio i ddiogelu dyfodol addysg uwch yng Nghymru."