English icon English

£227 miliwn i helpu economi wledig Cymru greu dyfodol mwy gwyrdd a chynaliadwy

£227m to support Wales’ rural economy towards a greener and more sustainable future

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu i sicrhau bod economi wledig Cymru a'n hamgylchedd naturiol yn parhau’n gryf ac yn gydnerth.

Mae yna gyfoeth o adnoddau naturiol yn ardaloedd gwledig Cymru ac mae’r adnoddau hynny’n cynnal cymunedau a bywoliaethau. Bydd ganddynt ran bwysig i’w chwarae wrth inni greu economi werdd newydd a fydd yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur sy'n ein hwynebu.   

Diben y cyllid hwn yw helpu i sicrhau bod y newid sydd ei hangen yn ystod ein 10 mlynedd o weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn gynt ac ar raddfa a fydd yn caniatáu inni greu Cymru a fydd yn gryfach, yn wyrddach ac yn decach.

Mae'r dyraniad cyllid hwn yn ymateb i ddiwedd Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yr UE, a fydd yn cau yn 2023. Bydd yn sicrhau cysondeb o ran cefnogaeth ar gyfer camau gweithredu pwysig a gyllidwyd yn flaenorol o dan y RhDG.

Bydd y cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:

  • Rheoli tir ar raddfa ffermydd − camau ar y fferm i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn gwella adnoddau naturiol, megis annog ffermwyr i dyfu cnydau sydd o fudd i’r amgylchedd, e.e. cnydau protein.
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd − gan gynnwys gwella effeithlonrwydd o ran tanwydd, porthiant a maetholion, gwneud dulliau’r economi gylchol yn rhan annatod o waith ffermydd, a’u hannog i ddefnyddio ynni adnewyddadwy.
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd – helpu ffermydd i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd, a’u galluogi i greu cyfleoedd i arallgyfeirio’n amaethyddol.
  • Rheoli tir ar raddfa’r dirwedd – mynd ati ar raddfa’r dirwedd i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur, drwy gydweithredu ar draws nifer o sectorau.
  • Coetiroedd a choedwigaeth – cefnogi’n hymrwymiad i greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi'r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy'n seiliedig ar bren.
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio – creu diwydiant bwyd a diod cryf a ffyniannus yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

Mae'r fframwaith yn ategu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, ac a fydd yn gwobrwyo ffermwyr a rheolwyr tir am y gwaith y maent yn ei wneud i ymateb i heriau'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ac i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy, gyda manteision i ddiogelwch bwyd yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Cyhoeddodd y Gweinidog fod cynlluniau sy’n werth cyfanswm o £100 miliwn naill ai’n dechrau yn awr neu’n cael eu lansio yn ystod yr wythnosau nesaf i gefnogi'r themâu hyn. Bydd mwy i ddod wrth i’r  gwaith dylunio manwl barhau. 

Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i wella adnoddau naturiol ar ffermydd ac i helpu ffermwyr i droi at systemau cynhyrchu organig.

Bydd cynlluniau hefyd i gefnogi sector garddwriaeth Cymru, a buddsoddiad mewn offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol busnesau fferm.

Mae cynlluniau sy'n cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 yn rhan o'r pecyn cymorth a fydd ar gael, a’u diben nhw yw datblygu cynlluniau i greu coetiroedd newydd, a chynllun i helpu i adfer coetiroedd.

Mae trafodaethau gyda Phlaid Cymru i gyflawni ymrwymiadau o fewn y Cytundeb Cydweithredu yn parhau. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd ar dir llai cynhyrchiol a thrwy ddulliau amaeth-goedwigaeth a ‘gwrychoedd ac ymylon’, ac edrych ar ffyrdd o ddenu buddsoddiad ar gyfer creu coetiroedd sy’n sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:

“Mae’n heconomi wledig yn chwarae rhan hanfodol yn y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau. Mae'n darparu'r bwyd o safon rydyn ni'n ei fwyta, yr adnoddau naturiol rydyn ni'n eu mwynhau, ac yn cynnal cymunedau a bywoliaethau ledled Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod yr economi honno’n dal i wynebu sawl her, yn enwedig y newid yn yr hinsawdd sy'n bygwth ein tir, sy’n effeithio ar ansawdd dŵr ac aer, ac sy’n rhoi mwy o bwysau ar fioamrywiaeth.

“Rydyn ni eisiau cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan ffermwyr Cymru, ac rydyn ni eisiau i’n cymunedau gwledig ni gael dyfodol gwyrdd a chynaliadwy. Mae'r pecyn hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r nodau hyn. Ni all economi wledig gref ond fod o fudd i’n cymunedau gwledig ni.

“Bydd y cyllid sylweddol rwyf yn ei gyhoeddi yn allweddol i gefnogi ein ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd i hyrwyddo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i gwrdd â’r heriau sydd o’n blaen, gan gefnogi cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen i gefnogi’r economi wledig ar y llwybr at Gymru sero net sy’n bositif i fyd natur.”

Nodiadau i olygyddion

Schemes open now or in the coming weeks:

Scheme

Date

Details

Small Grant - Environmental

Expression of Interest window due to open in May

A scheme to support a range of land management interventions and provide capital support for on-farm environmental improvements to enhance the quality of our natural resources. 

Small Grant – Growing for the Environment

Expression of Interest window due to open in June

A pilot scheme to encourage the growing of crops and pastures to provide an environmental benefit such as protein crops, mixed leys and cover crops for environmental, biodiversity and production benefits.

Organic Conversion Scheme

Expression of Interest window due to open in July

A scheme to support farmers to convert to organic production systems.

Small Grants – Efficiency

Expression of Interest window due to open in May

A scheme to support investment in new equipment and technology to enhance the technical, financial and environmental performance of farm businesses.

Horticulture Scheme - Development

Expression of Interest window due to open in April

A scheme to provide support to the Welsh horticulture sector.

Horticulture Scheme – Start Up

Expression of Interest window due to open in May.

A scheme to support new entrants into the Welsh horticulture sector.

Nutrient Management Investment Scheme

Expression of Interest window due to open in July

A scheme to provide support through capital grants to enhance on-farm nutrient management and storage.

Small Grants – Yard Coverings

Expression of Interest window due to open in June

A scheme to provide support through capital grants to enhance nutrient management through investment in covering existing farmyard infrastructure.

Woodland Creation (Plans)

Expression of Interest window open now

The scheme offers grants of between £1,000 and £5,000 to develop plans for new woodland creation.

Woodland Creation (Planting)

Expression of Interest window due to open in August

A scheme will open which supports our commitment of woodland expansion set out in net zero Wales and the Programme for Government commitments to create a National Forest for Wales.

Woodland Restoration

Expression of Interest window open now

The scheme is based on the Glastir Scheme which was part of the EU Rural Development Programme.