English icon English
Eluned Morgan Desk-2

£551m o gyllid Covid ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

£551m extra Covid funding for health and social services

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi croesawu dros hanner biliwn o bunnoedd o gyllid newydd ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i ddelio â Covid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £411m ar gyfer costau parhaus delio â’r pandemig hyd at fis Ebrill 2022 a £140m ar gyfer adferiad a mynd i’r afael ag amseroedd aros.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae pandemig Covid wedi cael effaith enfawr ar y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac maen nhw’n dal i wynebu costau sylweddol wrth iddyn nhw ddelio â’i effaith. Felly’n rwy’n falch o gadarnhau £411m ychwanegol ar gyfer y costau hyn, gan gynnwys y rhaglen frechu, profi, cyfarpar diogelu personol, a safonau glanhau newydd ar gyfer rheoli haint.

“Mae sgil-effaith delio â’r pandemig hefyd wedi bod yn enfawr. Mae rhestrau aros wedi cynyddu dros 33% ac maen nhw nawr ar lefelau na welwyd o’r blaen. Bydd yn cymryd amser i ddychwelyd i ble roedden ni cyn y pandemig a bydd angen buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio. Felly, rydym hefyd yn darparu £140m ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd ar gyfer y gwaith hwn.

“Bydd £100m yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau adfer byrddau iechyd, gan gynnwys cyflymu triniaeth y rhai sydd wedi bod yn aros yr amser hiraf. Bydd £40m ar gael ar gyfer cyfarpar ac addasu ysbytai ac adeiladau eraill i gynyddu capasiti ar gyfer triniaethau rheolaidd, tra’n parhau i gynnal mannau diogel o ran Covid.”

Mae’r arian sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn ychwanegol i’r £100m o gyllid a gyhoeddwyd ym mis Mai i gefnogi cynllun adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar ôl y pandemig.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd: “Rwy’n cydnabod ei bod yn dasg enfawr i hyd yn oed fynd yn ôl i ble roedden ni cyn y pandemig. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a chreu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy sy’n gallu ateb galwadau’r dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, fod yr arian sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn rhan o becyn o gyllid i helpu Cymru i adfer o bandemig Covid.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i gynyddu capasiti yn ein hysbytai ac fe fydd o gymorth hanfodol i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i symud ymlaen y tu hwnt i’r pandemig,” meddai.

“Mae’r arian yn rhan o becyn ehangach o gyllid a fydd yn cael ei wario dros y misoedd nesaf i’n helpu i greu’r Gymru decach, wyrddach, gryfach a mwyfwy llwyddiannus yr ydym ni i gyd ei heisiau i’n hunain ac i’n gilydd.”

Nodiadau i olygyddion

Bydd y Gweinidog yn ymweld â Ysybyty Singleton amser cinio dydd Iau i weld prosiect a chafodd arian o’r gronfa adferiad Covid ym mis Mai. Os hoffech gyfweliad a'r Gweinidog galwch Matthew Pritchard ar 07814 973937.

https://llyw.cymru/ps100m-i-roi-hwb-i-adferiad-y-gig-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru-ar-ol-y-pandemig

https://llyw.cymru/gwella-iechyd-gofal-cymdeithasol-covid-19-edrych-tuar-dyfodol