
£5m i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn Addysg Bellach
£5m to support students with additional learning needs in Further Education
Bydd cyllid newydd yn trawsnewid cyfleusterau addysgol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn Colegau Addysg Bellach ledled Cymru.
Bydd pob un o'r 13 Coleg Addysg Bellach yng Nghymru yn elwa o'r £5m, a fydd yn cael ei ddefnyddio i greu amgylcheddau dysgu mwy hygyrch a chynhwysol.
Ar ymweliad â Choleg Gŵyr Abertawe, tywyswyd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, o amgylch adran ADY bwrpasol yn y coleg i gyfarfod â myfyrwyr sy'n elwa ar gymorth arbenigol.
Cyfarfu â Juno, sy’n ddysgwr, a siaradodd am bwysigrwydd cael cymorth.
Dywedodd Juno:
“Mae’r cyfleusterau hyn yn hanfodol ar gyfer y cyfnod dwi’n ei dreulio yma yn y coleg. Er enghraifft, rwy’n defnyddio’r ystafell ddistaw bob dydd ac mae’r amgylchedd sydd yno’n fy helpu. Mae’n beth pwysig i mi bod y gefnogaeth hon ar gael.”
Dywedodd Vikki Howells:
"Bydd y £5 miliwn o gyllid cyfalaf rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn Colegau Addysg Bellach ledled y wlad, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu potensial llawn."
"Mae'r amgylchedd dysgu cynhwysol rydw i wedi'i weld yma heddiw yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, yn dangos pa mor bwysig yw cyfleusterau arbenigol wrth ddarparu addysg o ansawdd uchel i ddysgwyr sydd ag ADY. Mae'r cyllid hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wneud addysg yn hygyrch bawb waeth beth fo'u hanghenion."
Bydd y buddsoddiad o £5m yn galluogi colegau i wneud y canlynol:
- Uwchraddio'u cyfleusterau arbenigol presennol
- Prynu offer newydd
- Gwella adeiladau'r coleg i wella hygyrchedd
Dywedodd pennaeth Coleg Gwŷr, Kelly Fountain:
“Pleser oedd croesawu’r Gweinidog i Goleg Gwŷr, Abertawe ar ymweliad â’r staff a’r myfyrwyr sydd yn ein huned bwrpasol i ddysgwyr ag ADY.”
“Yma, mae gennym dîm o staff profiadol sydd wrth law i helpu myfyrwyr â’u anghenion dysgu ychwanegol ar bob cam o’u taith addysg, o gefnogaeth gyda’r broses bontio o’r ysgol i gymorth gyda thechnoleg gynorthwyol ar y campws. Mae gennym hefyd dîm niwroamrywiaeth arbenigol a all roi cymorth i fyfyrwyr i ymdrin ag ystod o gyflyrau fel dyslecsia, ADHD ac awtistiaeth.”