
Prentis awyrenegol arloesol yn chwifio'r faner dros fenywod mewn peirianneg
Pioneering aeronautical apprentice flies the flag for women in engineering
Mae prentis ifanc o Lantrisant yn chwalu ffiniau yn y diwydiant awyrofod wrth i Gymru ddathlu Diwrnod Menywod mewn Peirianneg.
Georgia Price, 21, oedd y prentis peirianneg awyrenegol benywaidd cyntaf yn AerFin Ltd yng Nghasnewydd, cwmni hedfanaeth byd-eang sy'n arbenigo mewn gwasanaethau cymorth awyrennau a chydrannau injan.
Ar hyn o bryd mae Georgia'n astudio am radd mewn Peirianneg Awyrenegol ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae hi'n torri cwys newydd i fenywod mewn gyrfaoedd STEM. Mae ei chyflawniadau yn cynnwys ennill medalau efydd ac aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Ysbrydoledig Cymru - Her Tîm Gweithgynhyrchu a Gwobr Doniau'r Dyfodol Academi Sgiliau Cymru.
Dywedodd Georgia:
“Fy nghyngor i fenywod eraill sy'n ystyried gyrfa ym maes peirianneg yw ewch amdani. Nid yw mor frawychus ag y gall edrych, ac mae pawb mor gefnogol a chroesawgar.”
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sergeant:
“Mae stori lwyddiant Georgia yn ysbrydoliaeth i bob menyw ifanc heddiw a allai fod yn ystyried gyrfa mewn peirianneg. Mae'r hyn y mae hi wedi'i gyflawni hefyd yn dangos gwerth prentisiaethau fel llwybr i gyflogaeth ac addysg bellach.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei chymorth i brentisiaethau er gwaethaf heriau ariannol a cholli cyllid Ewropeaidd. Mae'r cyllid craidd wedi codi o £97m yn 2020 i £144m yn y gyllideb ddiweddaraf. Dengys y data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Medr fod bron i 73,795 o brentisiaethau newydd a ddechreuwyd wedi cael eu cefnogi yn ystod y tymor y Senedd hon.
Mae gan gyflogwr Georgia, AerFin, bellach dri phrentis benywaidd ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu talent leol yn y sector awyrofod ffyniannus.
Dywedodd Simon Bayliss, prif swyddog gweithredu AerFin:
“Mae Georgia yn ased gwych i'r busnes. Mae prentisiaethau yn rhoi cyfle gwych i'r cwmni ddenu a datblygu talentau lleol sy'n ein galluogi i dyfu'n organig.”