Grantiau bach yn creu effaith fawr yng Ngogledd Cymru
Small grants making big impacts in North Wales
Y llynedd, dyfarnwyd cyfanswm o £966,000 i awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru i ddarparu Grantiau Datblygu Eiddo bach (PDGs) er mwyn gwella unedau masnachol ac adeiladau gwag yng nghanol eu trefi.
Cyflawnwyd y Byrddau Datblygu trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gwaith adfywio a gwella eiddo yng nghanol trefi.
Mae'r dyfarniadau grant wedi cefnogi perchnogion a deiliaid eiddo fel ei gilydd i wneud gwelliannau i'w safle ac i sicrhau bod modd i fusnesau ddechrau defnyddio gofod llawr masnachol gwag.
Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y Grantiau Datblygu Eiddo yn y rhanbarth yw £1.536m.
Ar draws 10 tref, cafodd cyfanswm o 45 eiddo eu gwella, gyda 12 o'r eiddo hynny'n cael eu gwella fel bod modd dechrau eu hailddefnyddio.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James: "Trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi rydym yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i drefi a chanol dinasoedd i greu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol a rhoi bywyd newydd i'n strydoedd mawr.
"Mae'n wych gweld yr effaith enfawr y mae'r grantiau bach hyn eisoes yn ei chael ledled Gogledd Cymru a gobeithiaf, drwy wella ein cynigion yng nghanol trefi yng Nghymru, y gallwn helpu i ddiogelu a datblygu busnesau yng Nghymru ac annog twf economaidd."
Un o'r prosiectau a elwodd ar y grant oedd prosiect i adnewyddu hen adeilad Woolworths yn Sir Ddinbych.
Mae'r adeilad yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Stryd Fawr y Rhyl a diolch i'r grant mae gwelliannau allanol helaeth wedi'u gwneud i'r ffenestri, caeadau, teils ac mae'r adeilad cyfan wedi'i ailbeintio.
Mae tu blaen a tho siop Palas Print yng Nghaernarfon wedi'u hatgyweirio, mae ffenestri newydd wedi'u gosod ac mae tu blaen y siop wedi'i beintio.
Yn Wrecsam, mae siop Barbwyr Henry hefyd wedi cael ei hatgyweirio, gan wneud y busnes yn fwy deniadol a chroesawgar i gwsmeriaid newydd a rhai sy'n dychwelyd.
Yn ogystal â'r gwelliannau allanol, mae'r diweddariadau mewnol wedi lleihau costau rhedeg ac wedi diogelu swyddi presennol.
Mae Gwesty'r Dinorben Arms, adeilad rhestredig gradd II amlwg yn Amlwch, hefyd wedi elwa'n fawr ar waith adfer i'r brif ffenestr godi bren.
Yn Sir y Fflint, mae'r gwaith o adnewyddu uned fasnachol wag yn Shotton ar y tu mewn a'r tu allan wedi darparu gofod llawr siop ychwanegol ac ardal storio.
Dywedodd perchennog yr eiddo: "Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r prosiect wedi llwyddo. Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru i gyfrannu tuag at gostau'r prosiect, rydym wedi llwyddo i wella'r adeilad yn sylweddol."