Gronfa Adferiad Diwylliannol – yn helpu i gynnal y sector treftadaeth
Cultural Recovery Fund – gives life line to heritage sector
Yn ystod ymweliadau â Gogledd Cymru yr wythnos hon, cyfarfu Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, â'r sawl sydd wedi derbyn cyllid o Gronfa Adferiad Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru – i weld sut mae’r cyllid wedi helpu i gynnal sefydliadau a diogelu swyddi yn ystod cyfnod heriol i'r sector.
Mae Canolfan y Celfyddydau Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llandedrog, Pen Llŷn bellach yn croesawu ymwelwyr eto. Yn ystod y pandemig dyfarnwyd £291,000 i Blas Glyn-y-Weddw o Gronfa Adferiad Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru – gan arbed 20 o swyddi a diogelu'r elusen rhag cau.
Dywedodd Gwyn Jones, Cyfarwyddwr: " Ym Mhlas Glyn y Weddw rydym wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig ac wedi teimlo ein bod wedi ein diogelu drwy'r argyfwng digynsail hwn. Heb y Gronfa Adfer Diwylliannol byddai Plas Glyn y Weddw wedi'i golli ynghyd â dros 20 o swyddi a 70 o gyfleoedd gwirfoddoli. Byddwn am byth yn ddyledus i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford a'i dîm am y gefnogaeth a roddir a byddwn yn gweithio'n galed i helpu i adfywio economi Cymru wrth symud ymlaen."
O ran y dyfodol, mae Oriel Plas Glyn y Weddw yn edrych ymlaen at barhau i ailddatblygu'r caffi a'r gegin a ysbrydolir gan artistiaid sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn atyniad ychwanegol ar gyfer y 140,000 o bobl sy’n ymweld â’r Oriel bob blwyddyn.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Rheilffordd Llangollen yn ogystal. Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen Cyf sy'n rheoli'r Rheilffordd Dreftadaeth ac mae’n gweithredu trac 10 milltir drwy ganol Dyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a phentref Carrog. Yn ogystal â gwarchod fflyd o gerbydau a'u cynnal a'u cadw'n barhaus, mae'n gwrarchod ac yn rheoli pedair gorsaf dreftadaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dau gylch o grantiau o dan y Gronfa Adferiad Ddiwylliannol i Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, sy'n dod i gyfanswm o fwy na £290,000 i helpu gyda chynnal gwasanaethau ac ailgychwyn gweithrediadau.
Dywedodd y Dirprwy Gadeirydd Phil Coles, "Roeddwn yn falch iawn bod y gweinidog wedi ymweld â Rheilffordd Llangollen ac wedi cyfarfod ag aelodau'r Bwrdd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd. Roeddem yn gallu mynegi ein diolch am y grant a fydd yn caniatáu i LRT adfer ac ailagor gwasanaethau trên yn Nyffryn Dyfrdwy yn ddiweddarach yn yr haf pan fydd trenau stêm yn gallu rhedeg eto i Carrog."
Ar draws dau gam y Gronfa Adferiad Diwylliannol mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £93m o gyllid sydd wedi cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion yn y sectorau allweddol hyn.
Roedd cam cyntaf y Gronfa Adfer Diwylliannol yn cefnogi 646 o fusnesau a 3,500 o unigolion gyda chyllid o £63m. Dyrannodd Llywodraeth Cymru £30m ar gyfer ail gam y cyllid i barhau i gefnogi'r sector. Rhoddwyd yr ail gam hwn ar waith i gefnogi'r sector tan ddiwedd mis Medi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden: "Mae'r pandemig wedi parhau i effeithio'n sylweddol ar y sector diwylliannol – ac mae'n dda cael siarad â'r atyniadau treftadaeth hyn i ddysgu mwy am yr heriau maen nhw wedi'u hwynebu a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn parhau i gysylltu â'r sector wrth i ni lacio'r cyfyngiadau ac edrych tuag at y lefel rhybudd sero newydd a dyfodol gyda llai o reolau cyfreithiol. Byddwn yn parhau i adolygu'r angen am unrhyw gymorth ychwanegol i sicrhau cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol."