English icon English

Grŵp newydd i gryfhau llais y dinesydd yn nemocratiaeth Cymru

New group to strengthen citizen voice in Welsh democracy

Mae grŵp o arbenigwyr blaenllaw ym meysydd democratiaeth, ymgysylltu â'r gymuned a datblygu polisi wedi cael ei sefydlu i ddod o hyd i ddulliau newydd o annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn democratiaeth.

Bydd y Grŵp Cynghori Democratiaeth Arloesol, dan arweiniad Dr. Anwen Elias, yn canolbwyntio ar ffyrdd creadigol o gael dinasyddion i gymryd rhan y tu hwnt i bleidleisio mewn etholiadau yn unig.

Cafodd y Grŵp ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i argymhelliad gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a ganfu bod llawer o ddinasyddion Cymru yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu oddi wrth brosesau gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Nod y Grŵp yw helpu i fynd i'r afael â hyn trwy addysg ddinesig a chyfranogiad arloesol sy'n cwmpasu pob lefel o lywodraeth.

Gan adrodd i'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, bydd y Grŵp yn rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru, ac ar yr un pryd bydd yn mynd ati i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Senedd a llywodraeth leol yn ystod y misoedd nesaf, wrth i’r aelodau ddechrau ar y gwaith pwysig o drawsnewid cyfranogiad democrataidd ledled Cymru.

Cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog ag aelodau'r Grŵp yn ystod eu cyfarfod cyntaf. Dywedodd: "Gan dynnu ar arbenigedd pob aelod o’r Grŵp, bydd yn gweithio i sicrhau bod lleisiau ein holl ddinasyddion yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Mae eu gwaith arloesol yn ymestyn y tu hwnt i brosesau etholiadol traddodiadol er mwyn adfywio democratiaeth ar bob lefel."

Dywedodd Dr Anwen Elias: "Dw i'n falch iawn o fod yn arwain y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth a fydd yn bwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn. Rydyn ni wedi tynnu ynghyd grŵp amrywiol o bobl ddylanwadol a chynghorwyr ym maes arloesedd democrataidd, cyfranogiad, ac ymgysylltu.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag eraill ledled Cymru sydd eisoes yn defnyddio'r arferion gorau mewn cyfranogiad cyhoeddus ac addysg democratiaeth. Gyda'n gilydd, byddwn ni'n chwilio am gyfleoedd i'r Grŵp hwn ychwanegu gwerth gwirioneddol i sicrhau bod lleisiau pobl Cymru yn cael eu clywed wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth."