English icon English

Gwario arian ar waith uwchraddio toiledau ar draws y Canolbarth

Spending more than a penny on toilet upgrades across Mid Wales

Bydd cyfleusterau cyhoeddus ar lwybrau teithio allweddol ledled Powys yn elwa ar waith uwchraddio sylweddol diolch i bron i £500,000 o gyllid.

Bydd grant Llywodraeth Cymru – a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Powys – yn galluogi gwaith adnewyddu toiledau ar draws Trefyclo, Llandrindod, Llanwrtyd a Rhaeadr Gwy. 

Bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i chwe chyfleuster cyhoeddus i gyd, gyda disgwyl i Landrindod hefyd fod y dref gyntaf yn y Canolbarth i gynnig toiled ‘Changing Places’ ochr yn ochr â chiwbiclau unigol.

Mae hyn yn golygu y bydd teuluoedd, preswylwyr, twristiaid a chymudwyr rhwng y Gogledd a'r De sydd ag anableddau difrifol, am y tro cyntaf, yn gallu crwydro'r ardal leol gan wybod y gallant ddibynnu ar gyfleuster cwbl hygyrch, croesawgar sy'n diwallu eu hanghenion.

Mewn mannau eraill, bydd cyfleusterau i bobl anabl yn cael eu gwella a'u hailaddurno ym mhob safle, a bydd lleoedd newid cewynnau babanod yn cael eu hychwanegu lle nad ydynt ar gael ar hyn o bryd.

Mae cynlluniau moderneiddio yn cynnwys ymdrechion i osod paneli solar ffotofoltäig lle bo hynny'n bosibl, er mwyn helpu i leihau costau ynni – gyda systemau casglu dŵr hefyd yn cael eu hychwanegu i sicrhau bod y cyfleusterau'n fwy hunangynaliadwy.

Mae eleni'n Flwyddyn Croeso ac mae Croeso Cymru'n dathlu'r ffyrdd gwahanol ac amrywiol y gall pobl o bob rhan o'r DU a'r byd deimlo eu bod yn cael croeso pan fyddant yn dod ar wyliau i Gymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu ymwelwyr i Gymru, gyda'n haddewid o olygfeydd a phrofiadau anhygoel. Ond rydym hefyd yn gwybod bod cael y pethau sylfaenol yn iawn yn hanfodol, a dyna pam mae'r gwelliannau hyn mor bwysig.

“Mae seilwaith o safon fel toiledau cyhoeddus yn hollbwysig ar gyfer hygyrchedd ac yn hanfodol er mwyn ein galluogi i estyn ein croeso cynnes a Chymreig i bawb.”

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus:

“Mae'r cyllid hwn yn cael ei groesawu'n fawr iawn. Gwyddom pa mor bwysig yw hi i gyfleusterau cyhoeddus fod yn ddibynadwy, yn hygyrch ac yn groesawgar. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod y toiledau hyn yn wirioneddol addas i'r diben ac yn diwallu anghenion ein cymunedau ac ymwelwyr â'n sir hardd yn y dyfodol.”

Sicrhawyd y cyllid hwn drwy'r cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.