Gweinidog yn dathlu ‘cyflawniad nodedig’ dosbarth 2021
Minister celebrates ‘remarkable achievement’ of class of 2021
Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi canmol cyflawniadau myfyrwyr ledled Cymru wrth i ganlyniadau Safon Uwch, UG, Cymwysterau Galwedigaethol a Thystysgrifau Her Sgiliau 2021 gael eu cyhoeddi.
Cyfanswm yr ymgeiswyr Safon Uwch yng Nghymru eleni oedd 35,867, cynnydd o 14.5% o gymharu â 2020, gan wyrdroi'r gostyngiad mewn Safon Uwch ers haf 2015 ac arwain at ddyfarnu 4,500 o ddyfarniadau Safon Uwch ychwanegol i ddysgwyr Cymru eleni. Mae canlyniadau Cymru yn dangos bod 99.1% o ddysgwyr wedi ennill graddau A* - E, i fyny o 97.6% yn 2019, gyda chynnydd mewn A* gyda 21.3% o ymgeiswyr yn ennill y radd hon.
Mae’r broses asesu a chymhwyso wedi bod yn wahanol eleni i flynyddoedd blaenorol wrth i arholiadau haf 2021 gael eu canslo mewn ymateb i'r pandemig. Dyluniwyd a darparwyd system newydd gan ysgolion a cholegau ac ymddiriedwyd ynddynt i gasglu ystod o dystiolaeth asesu ar gyfer pennu graddau’r dysgwyr.
Meddai Jeremy Miles,
“Rwy'n gobeithio bod pawb sydd wedi derbyn eu graddau heddiw’n teimlo'n hynod falch o'u cyflawniad nodedig.
“Nid yw eleni wedi bod yn debyg i unrhyw flwyddyn arall ac rydych chi wedi gorfod aberthu llawer. Bu'n rhaid i chi ddelio â chymaint o darfu ar eich astudiaethau yn ystod y 18 mis diwethaf, ond rydych chi wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad aruthrol i barhau â'ch dysgu. Rydych chi hefyd wedi chwarae rhan anhygoel o bwysig wrth gadw'ch cyd-ddisgyblion, eich athrawon a’ch cymunedau yn ddiogel.
“Er bod eich profiadau a’r ffordd y cawsoch eich asesu yn wahanol, nid yw gwerth y cymwysterau hyn yn wahanol o gwbl. Gallwch fod yn sicr bod eich graddau'n adlewyrchu'ch gwaith caled drwy gydol y flwyddyn hon, a'ch bod chi'n llwyr haeddu'r cymwysterau rydych chi'n eu derbyn.
“Mae’r staff yn ein hysgolion a’n colegau ni wedi bod yn aruthrol hefyd, gan weithio’n eithriadol galed ac o dan lawer o bwysau i ddarparu a marcio asesiadau dysgwyr.
“Y peth pwysicaf eleni yw bod dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu gyrfaoedd gwaith.
“Pob lwc i chi i gyd gyda pha beth bynnag sydd o’ch blaen yn y dyfodol.”