English icon English

Gweinidog yn diolch i'r sector amaethyddol wrth i sioe rithwir Sioe Frenhinol Cymru ddechrau

Minister thanks agriculture sector as virtual Royal Welsh Show begins

Wrth i Sioe Frenhinol Cymru ddechrau’n rithwir heddiw, mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig Lesley Griffiths wedi diolch i bawb yn y diwydiant amaethyddol am eu gwydnwch a'u hymroddiad yn ystod Covid19.

Dywedodd y Gweinidog: "Ffermio ac amaethyddiaeth yw calon y Gymru wledig o hyd ac rydym yn falch o gefnogi Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni.

"Mae'n drist iawn, wrth gwrs, na fyddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb yn y sioe eto eleni, ond rhaid i iechyd y cyhoedd ddod yn gyntaf.

"Rwy'n hynod falch o'r ymrwymiad sydd gan bawb yn y diwydiant ac wedi sicrhau fod pobl Cymru wedi parhau i gael y dewis gorau posibl o gynnyrch o Gymru.

"Mae'n amlwg bod pobl wedi gwerthfawrogi pwysigrwydd gallu cael gafael ar gynnyrch lleol yn ystod y pandemig.

"Diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud."

Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd fod creu Cymru gryfach, wyrddach a thegach wrth wraidd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni.

Dywedodd: "Wrth i ni wella o effaith Covid-19, mae gennym gyfle gwirioneddol i sicrhau Cymru well fyth nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd ein system newydd o gymorth i ffermydd yn hanfodol i'r ymdrech hon a bydd yn manteisio i'r eithaf ar bŵer amddiffyn natur drwy ffermio.

"Er mwyn paratoi ar gyfer trosglwyddo i'r cymorth i ffermydd newydd hwn rwyf wedi symleiddio'r Cynllun Taliadau Sylfaenol presennol er mwyn rhoi sicrwydd a thegwch taliadau ymlaen llaw i ffermwyr fydd yn cyrraedd ym mis Hydref eleni.

"Rwy'n gobeithio y bydd y newid hwn yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd mewn cyfnod cythryblus."

Mae ymrwymiadau lles anifeiliaid wedi'u cynnwys yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a datgelodd y Gweinidog ei bod yn bwriadu cyhoeddi strategaeth bum mlynedd yn yr hydref yn nodi'r hyn y disgwylir iddo gael ei gyflawni yn nhymor y Senedd hon.

Ychwanegodd y Gweinidog: "Rydym yn falch o'n record o ran sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid.

"Mae anifeiliaid bob amser wedi chwarae rhan ganolog yn hanes hir Cymru o ffermio ac rwy'n ymwybodol o'r gefnogaeth a gawn gan y sector a'r cyhoedd o ran sicrhau bod pob anifail yn cael ansawdd bywyd da.

"Lles anifeiliaid yw'r llinyn euraid sy'n rhedeg drwy ein holl bolisïau.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl filfeddygon a'u canolfannau sydd wedi parhau i ddarparu gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn a hanner ddiwethaf, gan sicrhau bod anifeiliaid wedi gallu derbyn y gofal sydd ei angen arnynt."