English icon English

Gweinidog yn gweld busnesau a phrosiectau Sir Ddinbych yn cael effaith gadarnhaol

Minister sees Denbighshire businesses and projects making a positive impact

Mae Gweinidog Gogledd Cymru Lesley Griffiths wedi gweld drosti’i hun sut mae tyfu busnesau a datblygiadau newydd yn gwneud gwahaniaeth yn Sir Ddinbych.

Bu'r Gweinidog yn cyfarfod â chwmnïau yn Rhuthun a Dinbych yn ogystal ag ymweld â'r teulu Ellis ar eu fferm yn Nhrefnant.

Yn Henllan Bakery, dangoswyd safle estynedig Bakery 1 a'r cyfleuster newydd Bakery 2 i Lesley Griffiths. Mae'r ddau wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r busnes wedi ehangu yn sylweddol dros y blynyddoedd ac mae bellach yn cyflogi 125 o bobl, yn bennaf o'r ardal leol.

Wrth ymweld a peiriannau amaeth Emyr Evans gerllaw, clywodd y Gweinidog am dwf llwyddiannus y busnes sy'n cael ei arwain gan Emyr Evans a'i wraig Gwenda a'u meibion Gwynedd a Berwyn.

Roedd cyfle hefyd i weld hynt y gwaith ar hen safle Ysbyty Gogledd Cymru ble mae prosiect datblygu tai ac adfywio yn cael ei gynnal, gan ddarparu 300 o gartrefi newydd. Mae’r cwmni lleol Jones Bros Civil Engineering UK yn rhan o'r cynllun hwn.

Yn Rhuthun, cyfarfu'r Gweinidog â Rhian Parry a thîm Workplace Worksafe, sef un o brif gyflenwyr offer amddiffynnol personol yn y gweithle, dillad gwaith a gwisg gorfforaethol ac yn ogystal â gwasanaeth caffael safle-benodol ac eitemau ar gyfer cwmnïau o’r radd flaenaf.

Dywedodd y Gweinidog: “Roedd hi'n wych gweld a chlywed sut mae busnesau'r ardal yn tyfu.

"Mae Henllan Bakery, Emyr Evans a Workplace Worksafe yn gyflogwyr pwysig yn Sir Ddinbych ac maent yn anelu at gael rhagor o lwyddiant nawr ac yn y dyfodol.

"Mae'r gwaith adfywio yn hen Ysbyty Gogledd Cymru yn parhau ac yn gyfle i greu swyddi a phrentisiaethau yn y gymuned leol. Rwy'n falch y bydd cyllid gan Fargen Twf Gogledd Cymru yn helpu i gyflawni’r project hwn."

Mae Bargen Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad gwerth £1 biliwn yn economi'r rhanbarth, a daw £240m ohono gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Aeth Angharad a Rhodri Ellis, a'r tirfeddiannwr Antony Griffiths, â'r Gweinidog ar daith o amgylch eu fferm yn Nhrefnant. Gwnaethant drafod eu model busnes a'r bartneriaeth gyda'r tirfeddiannwr, yn ogystal â chael dangos y gwartheg, lloi a geifr.

Ychwanegodd y Gweinidog: "Rwy bob amser yn mwynhau cwrdd â ffermwyr a gweld y gwaith trawiadol maen nhw'n ei wneud ar eu tir a thrafod y materion cyfredol.

"Roeddwn yn arbennig o falch o weld y mynnau geifr ar y fferm a hoffwn ddiolch i Angharad, Rhodri, y teulu, ac Antony, am fy nghroesawu."

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “ Pleser oedd croesawu’r Gweinidog i Sir Ddinbych wrth iddi ymweld â rhai o fusnesau llewyrchus y Sir a gweld rhai prosiectau gwych sydd ar waith yma.

“Yn ystod ei hymweliad cafodd y Gweinidog gipolwg ar rai o gymunedau amrywiol Sir Ddinbych, gan ymweld â busnesau amaethyddol a busnesau cynhenid sy’n cynnig swyddi amhrisiadwy ynghyd â phrosiect sy’n adfywio safle hanesyddol Ysbyty Gogledd Cymru a fydd yn creu tai ar gyfer pobl leol.

“Rydym yn croesawu’r cyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio ar y prosiectau hyn er lles busnesau a thrigolion y Sir.”