Gweinidog yn nodi'r camau nesaf ar gyfer Cyflog Byw Gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol
Minister sets out next steps for Real Living Wage in social care
Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi dweud ei bod am weld grŵp cyntaf o weithwyr gofal cymdeithasol yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol ar ddechrau tymor y Senedd hon.
Dywedodd Julie Morgan:
"Mae’r rôl bwysig y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei chwarae yn ystod y pandemig hwn, gan ddarparu gofal a chymorth i'r rheini sydd ei angen fwyaf, wedi cael cydnabyddiaeth go iawn. Ond ni cheir gwell cydnabyddiaeth na thâl teg.
"Rydyn ni wedi cynnull ynghyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, grŵp partneriaeth gymdeithasol lle mae undebau llafur, cyflogwyr a'r Llywodraeth yn dod at ei gilydd i edrych ar sut y gellir gwella amodau gwaith.
"Byddaf yn gofyn i'r Fforwm wneud argymhellion imi yr hydref hwn am y dull gorau o sicrhau bod gweithwyr gofal yng Nghymru yn cael tâl tecach. Byddaf yn gofyn iddynt ystyried gyda pha ran o'r sector y dylid cychwyn ar ddechrau tymor y Senedd.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithlu cryfach sy'n cael ei dalu'n well ym maes gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae hwn yn sector cymhleth a rhaid ystyried yn ofalus cyn gwneud newidiadau parhaol. Bydd angen inni gymryd camau graddol tuag at weithredu'r ymrwymiad hwn, sy'n golygu na fydd pob gweithiwr yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol ar yr un pryd.
"Rydyn ni’n mynd ati fel hyn oherwydd ein bod yn cydnabod y bydd angen amser ar gyflogwyr a chomisiynwyr i addasu i’r newidiadau. Rydym am sicrhau na fydd y tâl byth yn cael ei dorri yn ôl i’r hen lefel.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i weld gofal yn dod yn ddewis gyrfa ar gyfer y tymor hir – un lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod a'u cefnogi'n briodol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall y sector ddiwallu anghenion ein cymunedau – anghenion sy’n newid yn barhaus. Gwireddu Cymru sy’n decach a chryfach yw’r nod."