English icon English
Vaughan Gething  (L)

Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething ar ystadegau diweddaraf y farchnad lafur

Minister for Economy, Vaughan Gething on the latest labour market statistics

Wrth sôn am ystadegau'r farchnad lafur heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae ffigurau heddiw yn parhau i fod yn galonogol, gyda diweithdra yng Nghymru yn is nag yn y chwarter blaenorol ac yn aros yn is na'r ffigur ar gyfer y DU.

"Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhai heriau gwirioneddol yn dal i wynebu economi Cymru o ganlyniad i’r Coronafeirws ac ymadawiad y DU â'r UE. Rydym yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

"Fel rhan o'n hymdrechion i roi hwb i adferiad economaidd cryf, rydym am helpu i greu swyddi newydd yn niwydiant y dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl ledled Cymru. Yn benodol, mae gennym ffocws clir ar gefnogi pobl ifanc i gael gwaith. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein Gwarant i Bobl Ifanc, fydd yn rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed, gan roi'r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i gyflawni eu potensial.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i adeiladu economi gryfach, wyrddach a mwy llewyrchus, mewn Cymru decach i bawb."