Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1
Economy Minister confirms further Welsh Government support for businesses impacted by phased move to Alert Level 1
Heddiw, mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1, megis atyniadau dan do a lleoliadau priodas, yn cael gwerth £2.5m o gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru.
Ers 17 Mai, mae busnesau yng Nghymru sy'n dal i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau coronafeirws wedi gallu gwneud cais am hyd at £25,000 mewn cymorth brys i helpu i dalu costau parhaus tan ddiwedd mis Mehefin.
Mae cyllid ychwanegol bellach ar gael i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y newid graddol i Lefel Rhybudd 1, oherwydd yr effaith y mae amrywiolyn delta COVID-19 yn ei chael ar gyfraddau trosglwyddo. Mae’r newid graddol yn cymryd i ystyriaeth pryderon ynghylch effaith yr amrywiolyn delta ar gyfraddau trosglwyddo a chynnydd posibl yn nifer y bobl sy’n cael ei derbyn i’r ysbyty.
Bydd cymorth ar gael i fusnesau sydd â chapasiti ar gyfer digwyddiadau o fwy na 30 o bobl dan do neu mewn mannau cyfyng ac i fusnesau sy'n dal ar gau oherwydd cyfyngiadau parhaus.
I dderbyn y cyllid, bydd angen i fusnesau fod wedi gwneud cais i gylch diweddaraf Llywodraeth Cymru o gyllid brys - y mae'r dyddiad cau ar ei gyfer wedi'i ymestyn tan 12pm ddydd Mercher 16 Mehefin 2021.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn derbyn y taliad ychwanegol yn awtomatig lle bo hynny'n bosibl, neu bydd angen iddynt hunan-ddatgan drwy broses syml ar-lein. Mae manylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Bydd gan fusnesau hawl i daliad ychwanegol o rhwng £875 a £5,000, yn dibynnu ar eu maint a'u hamgylchiadau, ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd mis Mehefin.
Os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu, mae Gweinidogion yn gobeithio gweld Cymru'n symud yn llawn i Lefel Rhybudd 1 ar 21 Mehefin. Bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau unrhyw newidiadau yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Fy mlaenoriaeth fel Gweinidog yr Economi yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n barod i roi hwb cychwynnol i adferiad cryf yng Nghymru gyda'r cymorth cywir i fusnesau a gweithwyr Cymru.
"Dros yr wythnosau diwethaf, wrth i gyfyngiadau gael eu codi'n raddol, rydym i gyd wedi gweld llawer o elfennau o’n bywydau blaenorol yn dychwelyd mewn ffordd Covid-ddiogel. Mae hyn yn newyddion da i'n heconomi. Fodd bynnag, er gwaethaf ein llwyddiant wrth reoli cyfraddau Covid-19 a chyflwyno ein rhaglen frechu, gwyddom fod yr amrywiolyn delta yn parhau i gyflwyno heriau newydd.
"Mae'n golygu bod angen i ni fynd ati fesul cam i symud i Lefel Rhybudd 1, gan lacio'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau a gweithgareddau awyr agored yn gyntaf, gan fod y dystiolaeth yn awgrymu bod y risg o haint yn sylweddol is yn yr awyr agored na dan do. Er mai dyma'r penderfyniad cywir i Gymru, rydym yn cydnabod yr effaith y bydd yn ei chael ar nifer sylweddol o'n busnesau, yn enwedig lleoliadau priodas ac atyniadau dan do.
"Mae'r 15 mis diwethaf wedi bod yn anodd ac yn drawmatig i fusnesau a'u gweithwyr gyda llawer yn brwydro i oroesi. Gwnaed aberth personol enfawr gan lawer i barhau. Fel Llywodraeth rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru.
"Heddiw rwy'n cyhoeddi cyllid pellach ar gyfer y busnesau hynny yng Nghymru - fel lleoliadau priodas ac atyniadau dan do - i helpu i dalu costau o ganlyniad i'r newid graddol i Lefel Rhybudd 1 a oedd yn angenrheidiol oherwydd y risgiau a achosir gan yr amrywiolyn delta."
Mae Gweinidogion wedi darparu dros £2.5bn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn sydd wedi'i gynllunio i ategu ac adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Mae'r dull hwn, sydd wedi'i dargedu ac sy'n canolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau Cymru, wedi helpu i ddiogelu cannoedd o filoedd o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi'u colli fel arall.
Ers mis Hydref 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu 184,890 o grantiau gwerth £686.6m, gyda cheisiadau i'r cylch diweddaraf o gyllid yn dal i gael eu derbyn a'u prosesu.
Yn ogystal, yn wahanol i Loegr, mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn rhedeg am 12 mis llawn yn y flwyddyn ariannol hon. Cefnogir y mesur hwn gan £380m eleni i helpu tua 70,000 o fusnesau i gael cyfle i gael eu gwynt atynt.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Yn gyffredinol, rydym wedi darparu dros £400m o gymorth busnes yn ychwanegol at gyfran Cymru o wariant Llywodraeth y DU ar gymorth busnes yn Lloegr. Bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ond roeddent yn angenrheidiol i ddiogelu swyddi a busnesau yn yr argyfwng hwn. Yn fyr, byddai dull torri a gludo wedi golygu colli swyddi a busnesau yng Nghymru.”