Gweinidogion Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru
Welsh Ministers call for UK Government action on Freeports in Wales
Nid oes sôn eto bod Llywodraeth y DU am roi cynnig ger bron Llywodraeth Cymru i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru. Dyna fydd neges Gweinidogion Cymru wrth bwyllgor yn San Steffan yn ddiweddarach heddiw.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, yn dweud eu bod yn dal i fod yn agored i’r syniad o sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru, a’u bod yn barod i ddefnyddio pwerau cynllunio, cefnogi busnesau a threthu datganoledig i sicrhau y byddai unrhyw Borthladd Rhydd yng Nghymru’n cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei hymrwymiadau i waith teg a diogelu’r amgylchedd.
Fodd bynnag, er bod Gweinidogion Cymru wedi nodi'n glir eu hamodau ar gyfer cydweithio, nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynnig ffurfiol i Lywodraeth Cymru ar Borthladd Rhydd yng Nghymru.
Bydd y Gweinidogion yn dweud wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn fodlon gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU. Ym mis Chwefror, ysgrifennodd y Gweinidogion at Ganghellor y Trysorlys i drafod cynnig ar gyfer Porthladd Rhydd. Dros bum mis yn ddiweddarach, nid yw'r Canghellor wedi ateb. Mae’r Gweinidogion wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos hon i nodi eto eu hamodau ar gyfer cydweithio.
Mae’r Gweinidogion wedi dweud yn glir na fyddai Llywodraeth Cymru’n barod i ystyried cynnig i sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru a fyddai’n cael llai na'r £25m o gymorth ariannol sydd ar gael i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr.
Wrth siarad cyn gwrandawiad y pwyllgor, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rydym yn dal i fod yn agored i'r syniad o sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru, ond er mwyn creu un yma, rhaid defnyddio pwerau datganoledig. Ond, fel y mae pethau, nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno i'n cais i wneud penderfyniadau ar y cyd, ac nid oes unrhyw gyllid priodol ychwanegol wedi'i gynnig inni.
"Rydym wedi gofyn sawl gwaith i Weinidogion y DU am drafodaeth adeiladol. Mae'r diffyg eglurder ynghylch Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, polisi sy’n eiddo i Lywodraeth y DU, yn ansefydlogi penderfyniadau busnes mewn amgylchedd economaidd sydd eisoes yn eithriadol o ansicr, gan gael effaith uniongyrchol ar benderfyniadau buddsoddi. At hynny, gall eu penderfyniad i gyhoeddi Porthladdoedd Rhydd penodol ar gyfer Lloegr, heb benderfynu ar drefniadau ar gyfer Cymru, beryglu swyddi a chynlluniau buddsoddi yng Nghymru.
“Tan y cawn ymateb gan Lywodraeth y DU a chynnig ffurfiol ganddi, mae'r bêl yn dal i fod yn nwylo Llywodraeth y DU.
"Mae ein neges i Lywodraeth y DU yn glir – gallai awgrym Ysgrifennydd Gwladol Cymru y gallai Llywodraeth y DU orfodi Porthladd Rhydd ar Gymru heb ein bendith arwain at ganlyniad gwaeth i bawb. Mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda ni, nid yn ein herbyn."
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:
"Byddai'n gwbl annerbyniol i unrhyw Borthladd Rhydd yng Nghymru dderbyn ceiniog yn llai na'r £25m y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i bob Porthladd Rhydd yn Lloegr. Byddai'n golygu y byddai Porthladd Rhydd yng Nghymru o dan anfantais o’r funud gyntaf o'i gymharu â phorthladdoedd tebyg yn Lloegr, a byddai'n gorfodi Llywodraeth Cymru i gymryd miliynau o bunnau oddi wrth flaenoriaethau eraill i ariannu un o ymrwymiadau Llywodraeth y DU.
"Pe bai Llywodraeth y DU yn ceisio gweithredu'i pholisi ar Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru heb ein cefnogaeth ni, byddai’n rhaid iddi wneud hynny heb y mecanweithiau datganoledig ac o’r cychwyn cyntaf, byddai hynny’n gwneud y cynnig yn llai deniadol a chystadleuol na’r rheini yn Lloegr.
"Byddai'n hynod siomedig pe bai Cymru'n cael cynnig gwaeth dim ond am fod Llywodraeth y DU yn amharod i weithio'n adeiladol gyda ni."