English icon English

Gweinidogion Datganoledig yn Efrog Newydd ar gyfer Wythnos yr Hinsawdd

Devolved Ministers attends landmark New York Climate Week

Daeth y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifold am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, Andrew Muir, Gweinidog Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, Gillian Martin, yr Ysgrifennydd Dros Dro dros Sero Net ac Ynni yn Llywodraeth yr Alban ynghyd i gael cyfarfod cyn Wythnos yr Hinsawdd yn Ninas Efrog Newydd (NYC).

Neges Wythnos Hinsawdd NYC eleni yw "Mae'n Bryd": mae’n bryd dathlu'r rheini sy'n sbarduno gweithredu dros yr hinsawdd, herio pawb i wneud mwy ac ystyried sut i anelu'n uwch.

Mae Wythnos Hinsawdd NYC yn ysbrydoli ac yn cryfhau ymrwymiadau, polisïau a gweithredoedd y rhai sydd â'r pŵer i newid pethau, a chraffu arnynt, a gwneud y newid hwnnw'n rhan o waith prif ffrwd busnesau a llywodraeth. Bydd hefyd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni. 

Gwnaeth y Gweinidogion drafod yr angen i weithredu ar frys ar y newid yn yr hinsawdd yn y tair gwlad, pwysigrwydd sicrhau pontio teg i sero net, a phwysigrwydd cydweithio tuag at ein nodau cyffredin ledled y DU. 

Er bod pob gwlad yn wynebu heriau gwahanol a bydd gan bob un ei blaenoriaethau ei hun, mae'r angen i weithredu nawr ac i weithredu'n deg yn golygu manteisio ar fuddiannau gweithredu ar y cyd.  

Gwnaeth y Gweinidogion ailddatgan eu hymrwymiad i rannu gwybodaeth a phrofiad i helpu ei gilydd i leihau allyriadau, i wrthsefyll effeithiau'r hinsawdd yn well ac i gydweithio i greu'r amodau all sicrhau newid gwirioneddol, parhaol a theg yn y tair gwlad. 

Mae'r Gweinidogion yn disgwyl ymlaen at weithio gyda thîm Gweinidogion Llywodraeth newydd y DU i ysgogi rhagor o weithredu ar yr hinsawdd ledled y DU. 

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies: "Mae angen degawd o weithredu.

"Rydym yn dangos arweiniad ac ymrwymiad drwy bennu targedau uchelgeisiol, ond mae'n bryd canolbwyntio ar weithredu ac ar fanteision ehangach gweithredu fel aer glân a chartrefi a lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddyn nhw. 

"Rwy'n falch o gael adrodd llwyddiannau Cymru, a chael cysylltu â chydweithwyr mewn Llywodraethau ledled y byd i rannu atebion a chydweithio tuag at y nod pwysicaf hwn." 

Dywedodd Gillian Martin, Ysgrifennydd Dros Dro dros Sero Net ac Ynni yn Llywodraeth yr Alban: "Mae'n bryd symud o uchelgais i weithredu ac mae'n anrhydedd i mi fod yma i chwyddo dylanwad y gwledydd datganoledig a llywodraethau rhanbarthol yn y drafodaeth ryngwladol am yr hinsawdd ond gan ganolbwyntio yr un pryd ar ddatblygu galluoedd. Rwy'n credu y gall gweinyddiaethau datganoledig ddysgu oddi wrth ei gilydd wrth i ni gyflymu tuag at bontio teg i sero net. Roedd ein cymhelliad yn gryf heddiw i barhau â'r trafodaethau hyn cyn COP29.

"Mae gan yr Alban gyfle unigryw fel Cyd-gadeirydd y Gynghrair Dan 2 yn Ewrop a Llywydd newydd Rhwydwaith Rhanbarthau4 i barhau i hyrwyddo llywodraethau is-genedlaethol eraill."  

Ychwanegodd Andrew Muir, Gweinidog Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Gogledd Iwerddon: "Rwy'n falch iawn o allu ymuno â'm cyd-weinidogion o'r Alban a Chymru eleni yn Wythnos Hinsawdd Dinas Efrog Newydd fel aelod o'r Gynghrair Dan 2. 

"Newid hinsawdd yw un o fy mlaenoriaethau pennaf.  

"Mae cael mynd i'r digwyddiad allweddol hwn yn fodd i roi Gogledd Iwerddon ar y llwyfan byd-eang a thrafod ag eraill am ffyrdd o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a manteisio ar y cyfleoedd y mae'n eu cynnig." 

Yn ystod eu hymweliad ag Efrog Newydd, bydd Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion yn mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys cyfarfodydd â Gweinidogion, Penaethiaid Gwladwriaethau, Llywodraethwyr ac arweinwyr busnes.