English icon English

Gweledigaeth newydd i helpu i gynyddu tyfu bwyd arloesol yng Nghymru

New vision to help increase innovative food growing in Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gweledigaeth newydd i cynhyrchu mwy o fwyd uwch-dechnoleg yng Nghymru sydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd.

Nod prosbectws newydd Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig (CEA) yw gweld twf yn nifer y busnesau sy'n defnyddio technoleg i ddarparu systemau cynaliadwy o dyfu bwyd lle mae paramedrau ac amodau fel dŵr a golau yn cael eu rheoli'n dynn.

Ymwelodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths â busnes a sefydlwyd gyda CEA yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg i lansio'r prosbectws a gweld y gwaith y maent yn ei wneud i gynhyrchu ffrwythau meddal, gan gynnwys mefus, gydol y flwyddyn.

Cafodd y Gweinidog gyfle hefyd i lansio brand mefus newydd Aeron Cymreig y cwmni, sy'n dilyn buddsoddiad sylweddol gan S&A sydd wedi dyblu maint ei fferm yn y Bont-faen.

Mae CEA yn cael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd gyda systemau wedi'u datblygu ar fodel economi gylchol gan gynnwys gwres a maetholion wedi'u hailgylchu, ynni adnewyddadwy a helpu i sicrhau cyn lleied o wastraff bwyd â phosibl.

Mae'r math hwn o dyfu bwyd yn ategu dulliau amaethyddol a garddwriaeth traddodiadol drwy gynhyrchu'r cnydau na ellir eu tyfu'n hawdd yng Nghymru a chyflenwi cynnyrch gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae wedi bod yn wych ymweld â S&A i weld y cynnyrch gwych y maent yn ei dyfu yma yng Nghymru mewn ffordd mor arloesol ac i lansio eu brand mefus newydd.

"Mae creu Cymru gryfach, wyrddach a thecach wrth wraidd yr hyn yr ydym am ei gyflawni.

"Mae gan bob un ohonom bryderon am newid yn yr hinsawdd, lleihau adnoddau naturiol a thwf yn y boblogaeth - a'r effaith mae'n ei gael ar y bwyd ar ein platiau.

"Mae gan Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir y potensial i drawsnewid y gadwyn cyflenwi bwyd tra'n gostwng ein hôl troed carbon ac effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd.

"Gyda'n gilydd mae gennym gyfle gwirioneddol i ddarparu Cymru wyrddach nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp S&A, Peter Judge: "Mae cyfleoedd sylweddol i ddatblygu cnydau gwerth uchel yn effeithlon gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

"Mae'r buddsoddiad y mae S&A Produce wedi'i wneud yn cefnogi hyn, ynghyd â lansiad ein Brand Cymreig a fydd ar gael yn Siopau Coop yn ystod yr wythnosau nesaf."

Mae prosbectws CEA Cymru i'w weld ar: https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/sut-gallwn-ni-helpu