English icon English

Gwelliannau ar gyffyrdd 5 a 7 yr A483 i ddechrau

Improvements on A483 junctions 5 and 7 to begin

Bydd gwaith hanfodol yn cael ei wneud ar yr A483 yn Wrecsam rhwng cyffyrdd 5 a 7 i gynyddu darn o’r ddau fan croesi llain ganol ynghyd ag uwchraddio systemau draenio a rhwystrau.

Bydd y gwaith yn dechrau ar 1 Mehefin ac wedi’i drefnu i bara am chwe wythnos. Mae'r gwelliannau hyn i’r mannau croesi yn hanfodol er mwyn sicrhau bod trefniadau gwrthlif ar waith i hwyluso gwaith gosod wyneb newydd ar y gerbytffordd yn y dyfodol. 

Mae angen gosod wyneb newydd yn y lleoliad hwn yn ddiweddarach eleni.  Mae’n rhaid gwneud y gwaith hwn i gynnal cyflwr y ffordd a sicrhau diogelwch y cyhoedd sy'n teithio.

Er mwyn gwneud y gwaith o osod wyneb newydd yn ddiweddarach eleni yn ddiogel a chyn gynted â phosibl, bydd traffig yn cael ei roi mewn trefniant gwrthlif gan ddefnyddio'r mannau croesi yn y llain ganol. Aseswyd y mannau croesi hyn a nodwyd bod angen eu huwchraddio er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i'w defnyddio pan fo angen.

Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith presennol yn cael ei wneud gan gau dwy lôn yn ddi-dor i'r ddau gyfeiriad. Yn ogystal, bydd y ffordd yn cael ei chau’n llawn dros nos am bedair noson yn olynol ar ddechrau'r prosiect i osod system rhwystr amddiffynnol dros dro, ac ar ôl cwblhau’r gwaith er mwyn tynnu’r rhwystr oddi yno.

Bydd y set gyntaf o gau’r ffordd dros nos yn digwydd rhwng Cyfnewidfa Ffordd yr Wyddgrug (C5) a Chyfnewidfa Gresffordd (C6) i'r ddau gyfeiriad rhwng 1 Mehefin a 3 Mehefin. Bydd y llwybr dargyfeirio drwy'r A541/A5152. Bydd yr ail set dros nos rhwng Cyfnewidfa Gresford (C6) a Chyfnewidfa’r Orsedd (C7) rhwng 3 Mehefin a 5 Mehefin, bydd y llwybr dargyfeirio drwy’r B5102 a B5445. Wedi hynny, bydd y ffordd ar gau dros nos rhwng 7 – 11 Gorffennaf, ac yn effeithio ar draffig rhwng C5 a C7 a’r wahanol nosweithiau.  

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, mae un lôn ar gael yn ystod y dydd i ganiatáu i draffig fynd i'r ddau gyfeiriad ac mae'r gwaith sy’n tarfu fwyaf wedi'i drefnu dros nos.

Cytunwyd ar y gwaith cynllunio ar gyfer hyn gyda Chyngor Wrecsam, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Highways England.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Mae buddsodd yn ein seilwaith yng Ngogledd Cymru a’i gynnal yn hanfodol bwysig. Mae’r gwaith yn hanfodol i gynnal y rhan hon o’r A483, sy’n rhan allweddol o’r seilwaith o amgylch Wrecsam, yn ogystal â bod yn gyswllt allweddol i Dde Cymru a Lloegr.  Diogelwch y cyhoedd sy'n teithio yw ein blaenoriaeth, a bydd y gwaith hwn yn caniatáu i'r gwaith diweddarach mwy sylweddol ddigwydd gyda chyn lleied o darfu â phosibl.”

Gall defnyddwyr ffyrdd ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am draffig a diweddariadau am y prosiect ar wefan Traffig Cymru neu sianel Twitter: Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth.