English icon English

Gwerthu mawn mewn garddwriaeth yng Nghymru i ddod i ben

Retail sale of peat in horticulture in Wales to end

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd gwerthiant manwerthu mawn mewn garddwriaeth yn dod i ben yng Nghymru.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus sy'n dangos bod 92% o ymatebwyr Cymru wedi cefnogi gwaharddiad cyffredinol ar werthu compost mawn.

Er nad oes echdynnu mawn yng Nghymru ar hyn o bryd, bydd y gweithredu heddiw yn hollbwysig er mwyn amddiffyn mawnogydd Cymru yn y dyfodol. Mae atal gwerthiant mawn sy'n cynnwys cynhyrchion hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i fod yn gyfrifol yn fyd-eang.

Mawndiroedd yw'r storfeydd mwyaf yn y DU o garbon, sy'n cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau allweddol, ac mae'n gallu dal llawer iawn o ddŵr.

Pan fydd mawn yn cael ei echdynnu, mae'r carbon sy'n cael ei storio y tu mewn i'r gors yn cael ei ryddhau fel carbon deuocsid, gan gyfrannu at newid hinsawdd.

Mae echdynnu mawn hefyd yn diraddio cyflwr y màs mawn sydd yn bygwth bioamrywiaeth.

Caiff ei echdynnu'n bennaf yn y DU at ddibenion garddwriaethol, gyda chyfryngau tyfu mewn bagiau manwerthu yn cyfrif am 70% o'r mawn a werthir yn y DU.

Bydd gwaharddiad yn dod ag allyriadau nwyon tŷ gwydr i ben o echdynnu a defnyddio mawn yn ddomestig a bydd yn allweddol wrth gyrraedd targedau Sero Net Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y camau nesaf i weithredu'r gwaharddiad yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae ein mawnogydd yn eiconig, ac fe fydd cyhoeddiad heddiw yn allweddol yn y gwaith o'u diogelu a'u hadfer ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn cefnogi gwaith Rhaglen Weithredu Genedlaethol Mawnogydd.

"Mae allyriadau carbon deuocsid o echdynnu mawn yn cael effaith ar newid hinsawdd a bydd cyflwyno gwaharddiad ar werthu mawn mewn garddwriaeth yn manwerthu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Dangosodd yr ymgynghoriad gefnogaeth gref i wahardd gwerthu mawn yng Nghymru a byddwn nawr yn gweithio i weithredu gwaharddiad cyn gynted ag y bydd hynny'n ymarferol bosib."