English icon English

Hwb ariannol i brosiectau cymunedol yng Nghrughywel, Ystradgynlais a Thregaron

Funding boost for community projects in Crickhowell, Ystradgynlais and Tregaron

Mae prosiectau gwirfoddoli a chwaraeon ymhlith y rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cynllun grant cyfalaf sy'n helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Bydd Clwb Rygbi Tregaron yng Ngheredigion yn elwa ar £225,000 i roi adeilad parhaol yn lle eu caban presennol, gan ganiatáu iddynt gynyddu nifer y gweithgareddau sydd ar gael.

Mae Canolfan Wirfoddol Ystradgynlais wedi derbyn £10,000 i sefydlu stiwdio crochenwaith. Bydd y stiwdio fach yn gallu darparu ar gyfer grwpiau o hyd at wyth o bobl.

Bydd Rygbi Crughywel ym Mhowys yn derbyn £5,000 tuag at sefydlu trelar bwyd i roi cegin barhaol i'r clwb.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt: "Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn bwysig o ran helpu sefydliadau i brynu neu wella cyfleusterau fel y gall pobl leol elwa arnynt yn eu bywydau beunyddiol.

"Mae pob un sy'n derbyn cefnogaeth gan y rhaglen yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu ac mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn gallu eu helpu i wneud hyd yn oed mwy."

Nodiadau i olygyddion

Photo must be credited to Bradley Lever, The Content Creators