Hwb ariannol o dros £400,000 ar gyfer prosiectau cymunedol yn y gogledd-ddwyrain
Over £400,000 funding boost for community projects in north east Wales
Mae prosiectau gan Glwb Pêl-droed Dinbych ac Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo ymhlith y rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cynllun grant cyfalaf sy'n helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo yn derbyn £300,000 tuag at adfer ac adnewyddu hen siop beiriannau'r gwaith haearn a dur at ddefnydd y gymuned.
Bydd Clwb Pêl-droed Tref Dinbych yn elwa ar £95,000 i helpu i ddymchwel ac ailadeiladu ystafelloedd newid. Bydd y llawr gwaelod yn gartref i ystafelloedd newid newydd a bydd y gymuned ehangach yn defnyddio'r llawr uchaf.
Yn Sir y Fflint, bydd Double Click Design and Print CIC yn defnyddio £7,500 tuag at adnewyddu'r stiwdio ddylunio gymunedol bresennol gan gynnwys ailaddurno ac ail-osod y gegin.
Bydd Sied Dynion Prestatyn hefyd yn derbyn £7,500 tuag at gost estyniad i'w cyfleuster presennol i greu mwy o le i grwpiau cymunedol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt: "Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn bwysig o ran helpu sefydliadau i brynu neu wella cyfleusterau fel y gall pobl leol elwa arnynt yn eu bywydau beunyddiol.
"Mae pob un sy'n derbyn cefnogaeth gan y rhaglen yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu ac mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn gallu eu helpu i wneud hyd yn oed mwy."
Nodiadau i olygyddion
Photo must be credited to Bradley Lever, the Content Creators