English icon English

Hwb ariannol o dros £900,000 ar gyfer prosiectau cymunedol yn y gorllewin

Over £900,000 funding boost for community projects in west Wales

Mae eglwys yn Abertawe, elusen iechyd meddwl pobl ifanc yn Sir Benfro a chlwb rygbi yn Sir Gaerfyrddin ymhlith y prosiectau i dderbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cynllun grant cyfalaf sy'n helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn ymweld â Phlwyf Casllwchwr a Gorseinon yn Abertawe yn ddiweddar lle bydd cyllid o £300,000 yn hanfodol i ailgynllunio ac ailwampio'r eglwys hanesyddol i greu man cymunedol amlbwrpas. Mae'r cyfleuster eisoes yn fan cyfarfod i dros 50 o grwpiau cymunedol ac mae cynlluniau ar waith i gynyddu'r nifer hwn unwaith y bydd gwaith adnewyddu wedi'i gwblhau. Bydd y gwelliannau'n cynnwys lle ar gyfer grwpiau garddio a bioamrywiaeth, clybiau ieuenctid, gweithgareddau gwyliau ysgol, darpariaeth banc bwyd mwy, sgiliau cymorth TGCh a grwpiau cymorth ariannol.

Bydd Goleudy Housing and Support yn defnyddio £300,000 i greu canolfan gymunedol yn eu hadeilad, gan ddarparu lle sy'n addas ar gyfer eu gwasanaeth cymorth a gardd gymunedol.

Bydd Capel Seion yn Llanelli yn derbyn £300,000 i ailddatblygu eu hadeilad festri i gynnwys cegin, caffi cymunedol, ystafelloedd cyfarfod, stiwdio podlediad a thoiledau hygyrch. Bydd Clwb Rygbi Sanclêr yn derbyn £25,077 i wella eu cyfleusterau presennol fel ffens ar ochr y cae.

Bydd Sefydliad Megan's Starr, elusen sy'n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc a mynd i'r afael â bwlio, yn derbyn £20,000 i greu tŷ coffi cynnes a chroesawgar yn Sir Benfro. Maent hefyd yn cynnig cymorth iechyd meddwl hanfodol i'w cymuned.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt: Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:

"Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn bwysig o ran helpu sefydliadau i brynu neu wella cyfleusterau fel y gall pobl leol elwa arnynt yn eu bywydau beunyddiol.

"Roeddwn yn falch o ymweld â Gorseinon yn ddiweddar i glywed am y cynlluniau cyffrous sydd ganddynt i greu mwy o gyfleusterau cymunedol o fewn gofod yr Eglwys.

"Mae pob un sy'n derbyn cefnogaeth gan y rhaglen yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu ac mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn gallu eu helpu i wneud hyd yn oed mwy."

Dywedodd y Parchedig Dr Adrian Morgan, ficer St Catherine's yng Ngorseinon: "Mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio gan lawer o grwpiau cymunedol ar gyfer bob math o weithgareddau wythnosol, ond mae ei gynllun mewnol wedi cyfyngu ar ddefnydd y gymuned o'r Neuadd. Ond gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydyn ni nawr yn mynd i drawsnewid y gofod hwn er mwyn gallu cynnal llawer mwy o weithgareddau cymunedol yn gyson.

"Rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn gallu gweld budd canolfannau fel y rhain i gefnogi gweithgareddau cymunedol sy’n pontio rhwng y cenedlaethau, lleihau unigrwydd i'r ifanc a'r henoed fel ei gilydd, a helpu cymunedau i gryfhau eu hymdeimlad o le a bod yn lle croesawgar i bawb."