Hwb ariannol o dros £950,000 ar gyfer prosiectau cymunedol yn y gogledd-orllewin
Over £950,000 funding boost for community projects in north west Wales
Mae Clwb Criced Porthaethwy, canolfan iechyd a lles ym Mangor a chyfleuster ym Mhwllheli ar gyfer pobl ifanc agored i niwed a digartref ymhlith y prosiectau i dderbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cynllun grant cyfalaf sy'n helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Bydd Digartref Cyf yng Nghaergybi yn derbyn £300,000 ar gyfer ailddatblygu Canolfan Fenter Caergybi yn Ganolfan i'r Digartref (Lighthouse Homeless Hub). Bydd gwaith adnewyddu yn cynnwys cyfleusterau golchi dillad ac ymolchi, cegin ag offer llawn, man bwyta cymunedol sy'n darparu lle cynnes, ystafelloedd cyfweld, ystafell TG, canolfan wybodaeth, man ymlacio a gardd hamdden y tu allan.
Bydd Byw'n Iach Cyf ym Mangor yn elwa ar £159,670 tuag at greu man iechyd, lles a ffitrwydd newydd sbon i bobl sydd â symudedd cyfyngedig.
Bydd Malltraeth Ymlaen yn Ynys Môn yn defnyddio £212,000 tuag at brynu ac adnewyddu Canolfan Hen Ysgol Bordorgan. Bydd hyn yn cynnwys gosod cegin newydd a thoiledau hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod, gwresogi, goleuo ac insiwleiddio, a datblygu gardd gymunedol.
Mae GISDA ym Mhwllheli yn derbyn £292,000 tuag at brynu ac adnewyddu canolfan newydd ar Benrhyn Llŷn. Byddant yn creu canolfan newydd ar gyfer pobl ifanc agored i niwed a digartref a fydd yn cynnwys llety brys a dros dro gyda chymorth i'w helpu i symud ymlaen i fyw'n annibynnol.
Mae Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi yn elwa ar £19,334 tuag at adnewyddu ac ychwanegu ardaloedd cymunedol newydd i'r ganolfan i ddarparu mwy o le ar gyfer defnydd cymunedol gan gynnwys mynediad i'r anabl a chyfleuster newid babanod.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt: "Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn bwysig o ran helpu sefydliadau i brynu neu wella cyfleusterau fel y gall pobl leol elwa arnynt yn eu bywydau beunyddiol.
"Mae pob un sy'n derbyn cefnogaeth gan y rhaglen yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu ac mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn gallu eu helpu i wneud hyd yn oed mwy."
Nodiadau i olygyddion
Photo must be credited to Bradley Lever, The Content Creators