Hwb newydd yn agor i helpu mwy o ofalwyr i ddod o hyd i gymorth
New hub opens to help more carers find support
Ar ddiwrnod Hawliau Gofalwyr heddiw, agorwyd Hwb newydd yn swyddogol gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Bydd yr Hwb yn helpu mwy o ofalwyr di-dâl i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo a mynediad at gymorth am ddim.
Ers bron i 20 mlynedd, mae Canolfan Gofalwyr Abertawe wedi cefnogi ystod o ofalwyr ac wedi tyfu i fod yn un o'r gwasanaethau gofalwyr mwyaf yng Nghymru.
Gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, mae'r Ganolfan wedi symud i adeilad mwy ac wedi lansio gwasanaeth newydd - yr Hwb Gofalwyr.
Nod yr Hwb yw ei gwneud yn haws i ofalwyr gael mynediad at yr holl wasanaethau sydd ar gael iddynt mewn un lle a denu gofalwyr newydd nad ydynt efallai'n ymwybodol o'u hawliau, fel y rheini o gefndiroedd ethnig leiafrifol a gofalwyr gwrywaidd.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden
"Rwy'n falch iawn o gael agor yr adeilad newydd a'r Hwb ar gyfer Canolfan Gofalwyr Abertawe heddiw.
"Mae'r Ganolfan hon yn fwy ac yn cynnig lle i fwy o ofalwyr gael gafael ar gymorth o ansawdd uchel a helpu'r tîm i gyrraedd ystod eang o ofalwyr.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael y gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu. Felly, rwy'n ddiolchgar bod y Ganolfan yn darparu ein Cynllun Seibiant Byr a'n Cronfa Cymorth i Ofalwyr, sy'n helpu gofalwyr i gymryd seibiant o'u rôl ofalu a'u helpu i brynu eitemau hanfodol.
"Mae canolfannau fel hyn yn hanfodol i helpu gofalwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u grymuso.
“Hoffwn ddiolch i ofalwyr di-dâl am eu cyfraniad aruthrol i'n cymdeithas ac i'r Ganolfan am eu hymroddiad i gefnogi gofalwyr di-dâl.”
Ochr yn ochr â gwasanaethau cwnsela a chyngor ariannol, bydd yr Hwb yn darparu mynediad at seibiannau byr sy'n amrywio o ddiwrnodau allan, teithiau i ffwrdd a chymorth gydag aelodaeth campfa.
Mae Dave Burgess MBE wedi bod yn ofalwr i'w wraig Jan ers 55 o flynyddoedd.
Aeth i Ganolfan Gofalwyr Abertawe am y tro cyntaf 20 mlynedd yn ôl i gael cyngor ar lenwi ffurflenni i gael budd-daliadau gofalwyr - bellach mae ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y Ganolfan.
Dywedodd Dave:
"Mae fy ngwraig wedi bod drwy lawer. I ddechrau, fe dorrodd ei gwddf mewn damwain, ac yna collodd ei choes 10 mlynedd yn ôl o ganlyniad i salwch.
"Pan fyddwch chi'n dod yn ofalwr, mae'n newid eich bywyd, dydych chi ddim yn gwybod i ble nac at bwy i droi am help.
"Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael gan y Ganolfan ers mynd yno y tro cyntaf wedi bod yn eang. O roi cyngor ariannol proffesiynol i fy nghefnogi yn feddyliol drwy amser caled gyda'u gwasanaethau cwnsela.
"Bydd yr Hwb newydd yn golygu, os byddwch chi'n dod yn ofalwr yn ddirybudd fel fi, bod siop un stop lle gallwch gael yr holl wybodaeth ac arweiniad sydd eu hangen arnoch mewn un lle, ar ddechrau eich taith ofalu.
"Mae'r Ganolfan yn rhoi bywyd i ofalwyr y tu allan i'w rôl ofalu, ac yn rhoi cymuned i ofalwyr a allai deimlo'n unig. Bydd yr hwb yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint mwy o bobl."
Nodiadau i olygyddion
- The hwb and premises will officially launch at 11am on Thursday 21st November. This press release will be reissued with pictures after 12pm.
- The new premises for the Swansea Carers Centre was partly funded by the Welsh Government.
- The Centre receives over £200,000 of the Welsh Government’s Regional Integration fund to support with various programmes.
- Home - Swansea Carers Centre
- Short Breaks Scheme Carers Trust Wales
- Carers Support Fund Wales Programme - Carers Trust
Additional supportive quote:
CEO of Swansea Carers Centre, Ifor Glyn said:
“We appreciate the support from the Welsh Government and other partners which allow us to engage with more and more unpaid carers every year.
“Swansea Carers Centre recognises that there are many carers that are not in touch with services, and we would invite them to come forward and get the help and support they deserve.
“Life for many carers is often stressful and demanding and we must ensure that we extend our services to all carers in our society. Unpaid carers provide invaluable support to our health and social care services.”