Hwb o £2.4m i Amgueddfa Lechi Cymru
£2.4m boost for National Slate Museum
Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cyllid ychwanegol i Amgueddfa Cymru i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru
Mae ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wedi derbyn hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru, wrth i'r safle gyrraedd cam tyngedfennol o'r gwaith adnewyddu.
Mae'r amgueddfa yng nghanol tirwedd lechi gogledd Cymru, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, sydd wedi'i leoli yng ngweithdai rhestredig Gradd 1 Gilfach Ddu. Caeodd dros dro i'r cyhoedd ym mis Tachwedd 2024 er mwyn caniatáu i'r safle gael ei ailddatblygu i wella'r safle i ymwelwyr a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r atyniad rhyngwladol arwyddocaol hwn.
Yn ystod ymweliad â'r amgueddfa [ddydd Gwener 20 Tachwedd], cadarnhaodd Heledd Fychan, Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, £2.4m o gyllid cyfalaf ychwanegol i Amgueddfa Cymru yn benodol ar gyfer safle gogledd Cymru.
Gwelodd y Gweinidog rywfaint o'r gwaith arbenigol wedi'i gwblhau hyd yn hyn gan gynnwys atgyweirio a chadw ffenestri a drysau gwreiddiol y safle.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae adeiladau'r siop a'r caffi presennol wedi cael eu dymchwel, gan eu bod bron yn 30 mlwydd oed a ddim bellach yn addas i'r diben. Mae sylfeini bellach wedi'u gosod ar gyfer caffi a chanolfan ddysgu a chymunedol newydd. Bydd yr adeilad modern, hygyrch hwn yn rhoi gwell profiad i ymwelwyr ac yn darparu mwy o le ar gyfer defnydd cymunedol a digwyddiadau.
Mae cynlluniau pellach ar gyfer y safle yn cynnwys:
- ardal chwarae newydd, wedi'i gynllunio i addysgu plant am y dirwedd lechi
- mannau pwrpasol ar gyfer arddangosfeydd a dehongli
- arddangosfeydd ar ddiwylliant a hanes y diwydiant llechi sy'n bwysig yn fyd-eang, a sut y lluniodd Gymru
Meddai y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn adrodd hanes diwydiant a helpodd i lunio Cymru, ei chymunedau a'i hiaith. A minnau wedi ymweld a'r safle yn rheolaidd ers yn blentyn, mae'n ysbrydoledig gweld y sgiliau a'r gofal sy'n cael eu buddsoddi i gadwraeth yr adeiladau hanesyddol yma.
"Bydd y £2.4m ychwanegol o gyllid cyfalaf yn cefnogi'r ailddatblygu ar gam pwysig, gan greu amgueddfa fwy hygyrch, gyda chyfleusterau newydd a mwy modern. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau y gall yr amgueddfa groesawu ymwelwyr, ysgolion a phobl leol am genedlaethau i ddod.
"Dwi'n edrych ymlaen at weld yr amgueddfa yn ailagor a chroesawu pobl o bob rhan o Gymru a ledled y byd i ddarganfod ac ymgolli yn stori unigryw ein treftadaeth lechi."
Meddai Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect Amgueddfa Lechi Cymru:
"Rydyn ni'n falch iawn o sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Bydd heriau bob amser gydag unrhyw ailddatblygiad mawr ar safle hanesyddol fel hyn. Ond mae'r cadwraeth a'r crefftwaith sy'n mynd i mewn i'r prosiect hwn yn dyst i waith caled y tîm. Ni allwn aros i rannu mwy o ddatblygiadau dros y misoedd nesaf."
Meddai Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:
"Mae'r cyllid hwn yn hwb mawr ar gam tyngedfennol. Bob tro dwi'n ymweld, dwi'n cael fy nharo gan y sgil, y gofal a'r ymroddiad sy'n cael eu buddsoddi mewn gwarchod yr adeiladau hanesyddol rhyfeddol hyn. Ar yr un pryd, rydyn ni'n creu mannau newydd a fydd yn gwneud yr amgueddfa yn fwy hygyrch, diddorol a phleserus i ymwelwyr.
"Hoffem estyn ein diolch o galon i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad ychwanegol hwn. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Gwynedd (drwy Lywodraeth y DU) drwy brosiect Llewyrch o'r Llechi, Sefydliad Garfield Weston a'n cyllidwyr a'n cefnogwyr eraill."
Mae'r amgueddfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, ond gallwch weld ei chasgliadau o hyd drwy'r rhaglen Amgueddfa ar y Lôn
- Yn Ysbyty'r Chwarel gerllaw ym Mharc Padarn, Llanberis
- Hollti llechi - bob dydd yng Nghastell Penrhyn - lle am y tro cyntaf mae'r grefft hon yn cael ei harddangos yn hen gartref un o berchnogion chwareli cyfoethocaf y byd
- Gof yr amgueddfa, yn gweithio yn y YrEfail@Cei Llechi, Caernarfon
Am ragor o wybodaeth, ewch i Amgueddfa Lechi Cymru | Amgueddfa Cymru