English icon English
PO 200521 Miles 25-2

“Llongyfarchiadau mawr i ddysgwyr TGAU a galwedigaethol ledled Cymru" – y Gweinidog Addysg

“Huge well done to GCSE and vocational learners across Wales” – Education Minister

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi llongyfarch dysgwyr yng Nghymru sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol heddiw.

  • Cafwyd 328,658 o gofrestriadau TGAU ar gyfer haf eleni, cynnydd o 8.6% o gymharu â 2020.
  • Cyflawnodd 29% o’r cofrestriadau A* neu A, gyda 74% yn cyflawni gradd rhwng A*- C.
  • Pasiodd 98% o'r cofrestriadau gyda graddau rhwng A*-G.

Mae'r broses asesu a chymwysterau eleni wedi bod yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, gan fod arholiadau haf 2021 wedi’u canslo mewn ymateb i'r pandemig. Cafodd system newydd ei chynllunio a'i chyflwyno gan ysgolion a cholegau, gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth asesu i bennu graddau dysgwyr.

Darparodd Llywodraeth Cymru £9m yn ychwanegol i gefnogi ysgolion a cholegau i gyflawni’r asesiadau eleni.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu £26m yn ychwanegol i sicrhau bod myfyrwyr wedi gallu cwblhau eu cymwysterau galwedigaethol a bod colegau wedi gallu parhau i gyflwyno sesiynau ymarferol eleni. 

Ymwelodd y Gweinidog ag Ysgol Glan Clwyd, yn sir Ddinbych, lle cyfarfu â disgyblion a oedd yn casglu eu graddau TGAU.

Dywedodd Jeremy Miles:

 "Ein blaenoriaeth eleni oedd rhoi system ar waith fel bod dysgwyr yn derbyn graddau’n seiliedig ar dystiolaeth o'u gwaith sy’n galluogi i symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu waith yn hyderus.

 “Fy neges i fyfyrwyr TGAU eleni yw ‘da iawn chi’. Rydych wedi wynebu cymaint o heriau dros y 18 mis diwethaf – cyfnodau clo, amser i ffwrdd oddi wrth eich ffrindiau a'ch teuluoedd, ac adegau lle rydych wedi colli allan ar lawer o'r gweithgareddau cymdeithasol y dylech fod yn eu mwynhau. Rydych wedi dangos gwydnwch aruthrol i oresgyn yr holl heriau hyn. 

"Rwyf hefyd am longyfarch dysgwyr ar ganlyniadau eu cymwysterau galwedigaethol. Mae sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth yn hanfodol bwysig o ran diwallu ystod anghenion economi Cymru, nawr yn fwy nag erioed o’r blaen, a bydd y cymwysterau rydych wedi gweithio’n galed i’w hennill yn eich rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.

"Mae hefyd wedi bod yn gyflawniad rhyfeddol gan holl staff yr ysgolion a'r colegau sydd wedi gweithio mor galed i alluogi cymwysterau eleni. Mae wedi bod yn dasg aruthrol rhoi mesurau ar waith fel bod dysgwyr yn gallu cael eu canlyniadau yn yr un modd ag unrhyw flwyddyn arall. Dylech fod yn falch iawn o'r gwaith rydych wedi'i wneud i helpu ein dysgwyr i symud ymlaen."