English icon English
4e91dd06-ae35-4113-8086-2123f807bfcd

Lluniau newydd gwych yn dangos sut mae cenedl yn Nyffryn Amazon Periw yn troi at ynni adnewyddadwy, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru

Stunning new pictures show how a Peruvian Amazon nation is moving to renewable energy thanks to Welsh Government funding

Mae lluniau newydd yn dangos sut mae cenedl gynhenid yn Nyffryn Amazon Periw yn defnyddio arian gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i wireddu'u nod o ddefnyddio dim ond ynni adnewyddadwy.

Mae'r lluniau, sydd wedi eu rhyddhau i ddathlu Wythnos Ewch yn Wyrdd Maint Cymru, yn dangos sut mae pobl y Wampís wedi elwa ar £55,000  o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae pobl Wampís yn gynhenid i'r Amazon ym Mheriw.

Prin 15,000 o bobl sy'n perthyn i'r genedl ond mae eu tiriogaeth yn estyn dros 1.3 miliwn hectar o goedwig drofannol hynod hynod fioamrywiol. Mae 98% o'r goedwig yn dal yn ddilychwyn er gwaethaf torri coed yn anghyfreithlon, cloddio am aur a chwilio am olew.

Mae un astudiaeth  wedi amcangyfrif bod eu coedwigoedd yn gallu storio 145 miliwn tunnell o garbon. Mae Maint Cymru wedi bod yn cefnogi cenedl y Wampís ers 2016.

Cafodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd bryd hynny, gwrdd â chynrychiolwyr Cenedl y Wampís yn COP27 yn Glasgow yn 2021 ac eto yn y COP Bioamrywiaeth ym Montreal yn 2022.

O ganlyniad i'r cyfarfodydd hyn, gwnaeth Llywodraeth Cymru neilltuo cyllid i'r Wampís trwy Maint Cymru i'w helpu i gael eu holl ynni o ffynonellau adnewyddadwy a thalu am adeiladu cwch pŵer solar deg sedd - y cyntaf o'i fath ym Mheriw.

Mae'r cwch eisoes yn gwneud gwaith gwerthfawr i genedl y Wampís drwy fynd ag aelodau'r gymuned i ganolfannau iechyd ac ysgolion, i wneud eu gwaith pob dydd ac i batrolio'r afon a chludo’r cynhaeaf.

Mae’n cynnig gwasanaeth hanfodol hefyd trwy fynd â mamau beichiog o'r cymunedau lleol i'r ganolfan iechyd leol i gael archwiliadau yn ogystal â mynd â'u plant i gael eu harchwiliadau iechyd misol.

Dywedodd Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio bellach: "Cael cwrdd â'r Wampís oedd uchafbwynt fy ymweliadau â Glasgow a Montreal.

"Mae ganddyn nhw hanes hynod ddiddorol ac mae gwrando ar eu straeon yn gwneud i chi sylweddoli pa mor real a byw yw bygythiad newid hinsawdd i bobl ar draws y byd.

"Roeddwn yn falch iawn o allu cefnogi'r Wampís trwy Maint Cymru ac rwyf wedi mwynhau'r wybodaeth ddiweddaraf hon ynghylch sut mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio.

"Rwy'n falch hefyd bod ein nawdd ariannol yn helpu i gryfhau cenedl y Wampís i amddiffyn eu coedwig, eu diwylliant a'u bywoliaeth."

Ers derbyn cyllid Maint Cymru, mae dau borth solar wedi'u gosod yn nhir y Wampís.

Maen nhw'n gallu cynhyrchu ynni adnewyddadwy i'r gymuned heb ddefnyddio tanwyddau ffosil sy'n llygru.

Mae'r pyrth solar wedi'u gosod mewn warws bach wedi'i adeiladu gan y gymuned leol i gadw'r offer yn ddiogel a'i gynnal a'i gadw'n dda.

Mae'r cyllid wedi cael ei ddefnyddio hefyd i hyfforddi aelodau'r genedl (8 dyn ac 1 fenyw) mewn technoleg solar a sut i osod, rhedeg a rheoli paneli solar.

Ychwanegodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd: "Rwyf wedi mwynhau darllen y bwletin hwn o'r Amazon ym Mheriw ac mae'n hynod ddiddorol dysgu sut mae cyllid Maint Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd mor rhagorol.

"Bydda' i'n cwrdd â chynrychiolwyr Cenedl y Wampís pan fyddan nhw'n dod i Gymru yn ddiweddarach eleni a dw i'n disgwyl ymlaen yn fawr at ddysgu mwy bryd hynny a chael gwybod y diwedddaraf ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi gallu eu helpu i droi at ynni adnewyddadwy ac ymladd y newid yn yr hinsawdd."

Mae Kara Solar o Ecuador yn cydweithio â Maint Cymru i roi’r hyfforddiant.

Mae’r berthynas honno wedi annog cenedl yr Achuar yn Ecuador sydd eisoes yn berchen ar gwch solar i rannu eu gwybodaeth gyda‘u cymdogion, cenedl y Wampís ym Mheriw.

Dywedodd Carmen Pirucho Huar: “Rydyn ni fenywod yn gallu teithio’n ddiogel nawr i gael archwiliadau pan fyddwn yn feichiog ac mae mamau’n cael mynd â’u plant i gael archwiliadau.

“I ddechrau, roedd ofn arna i gan nad yw’r cwch yn gwneud unrhyw sŵn ond mae e yn gweithio! Mae e’n symud fel cwch bach heb wneud unrhyw sŵn.

“Gwnaethon ni gyrraedd ar ôl awr a hanner, heb wastraffu unrhyw danwydd gan ei fod yn gweithio ar banel solar.

“Dw i’n diolch i genedl y Wampís a phawb arall sy wedi’n helpu ni i gael y cwch gan ei fod e mor eco-gyfeillgar.

“Dyma’r tro cynta yn fy mywyd ifi weld cwch sydd ddim angen petrol i’w symud. Mae e’n beth rhyfeddol a dweud y gwir.”

DIWEDD