Llwyddiant i Gymru ar lwyfan Lyon
Silver and Success in Lyon
Medal arian yn y 'Gemau Olympaidd sgiliau'
Gall Cymru ymfalchïo yn y chwe person ifanc ymroddedig a gynrychiolodd eu gwlad fel rhan o Dîm y DU yn 47fed Cystadleuaeth WorldSkills yn Lyon yr wythnos diwethaf, gan gipio medal arian ac anrhydedd ‘Gorau yn y Genedl’.
Enillodd Ruben Duggan o Fanmoel yn y Coed Duon fedal arian mewn Plymio a Gwresogi. Dywedodd Ruben, a oedd wrth ei fodd ȃ’r dyfarniad:
"Dyma'r diweddglo gorau posibl i’r daith ffantastig o ‘ngholeg bach yn y cymoedd i ennill medal arian yn rowndiau terfynol cystadleuaeth fyd-eang. Does dim byd yn cymharu â hynny."
Dyfarnwyd Ruby Pile, sy'n gweithio yng Ngwesty a Sba Parc Lucknam ac a fynychodd Goleg Caerdydd a'r Fro, yn deilwng o’r teitl 'Gorau yn y Genedl’ i'r DU mewn Gwasanaeth Bwyty. Mynegodd Ruby ei balchder, gan ddweud:
"Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd fawr. Rydw i mor falch ohonof fy hun, yn enwedig ar ôl yr holl waith caled rydw i wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf."
Fel rhan o dîm o 31 o bobl, roedd yr unigolion talentog hyn yn wynebu cystadleuaeth gref gan dros 1,500 o gyfranogwyr ar draws 69 o wledydd. Mae cyrraedd y gystadleuaeth yn dyst i sgil ac ymroddiad anhygoel y bobl ifanc hyn oedd yn lysgenhadon gwych i Gymru ar lwyfan byd-eang.
Wedi’u dethol, eu mentora a’u hyfforddi gan WorldSkills DU, a’u cefnogi gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, maent wedi cael eu cydnabod ymhlith y bobl ifanc mwyaf medrus yn y byd gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant byd-eang yn dilyn eu perfformiad ennill medalau yn y digwyddiad y cyfeirir ato’n aml fel y 'Gemau Olympaidd sgiliau'.
Mae WorldSkills DU, sy’n bartneriaeth pedair gwlad rhwng addysg, diwydiant a llywodraethau’r DU, yn defnyddio’r mewnwelediad y mae’n ei gael o gymryd rhan yng Nghystadleuaeth ryngwladol WorldSkills i ymgorffori safonau hyfforddi o’r radd flaenaf ledled y DU. Pearson, cwmni dysgu gydol oes y byd yw partner swyddogol Tîm y DU ar gyfer WorldSkills Lyon 2024.
Mae’r DU wedi bod yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth WorldSkills ers 1953 ac mae’r digwyddiad yn cael ei ddefnyddio gan lywodraethau ledled y byd, economegwyr ac arweinwyr busnes byd-eang fel prawf litmws o sgiliau pedigri a photensial twf economaidd.
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau Jack Sargeant:
"Nid yw bod yn rhan o Dîm DU yn ymwneud â balchder cenedlaethol yn unig - mae'n ymwneud â rhoi'r sgiliau i'n pobl ifanc a fydd yn llywio dyfodol ein cenedl. Bydd yr arbenigedd y maent yn ei ddatblygu heddiw yn hybu economi, arloesedd a chymdeithas yfory.
“Rydym yn hynod falch o’r chwe chystadleuydd o Gymru a gynrychiolodd Gymru fel rhan o Dîm DU. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad nid yn unig o’u hymroddiad eu hunain ond hefyd o gefnogaeth amhrisiadwy’r tîm o arbenigwyr a fu’n eu mentora a’u harwain ar hyd y daith.
“Dylid dathlu cystadlaethau fel hyn gyda’r un brwdfrydedd â digwyddiadau athletaidd proffil uchel, gan eu bod yn codi safonau, yn ysbrydoli rhagoriaeth, ac yn arddangos y dalent a fydd yn gyrru Cymru a’r DU ymlaen fel arweinwyr byd-eang.”
Bu dros 1500 o bobl ifanc o 69 gwlad yn cystadlu dros bedwar diwrnod o gystadleuaeth galed mewn 62 o wahanol sgiliau yn WorldSkills Lyon. Gwyliwyd y digwyddiad gan dros 250,000 o wylwyr.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills DU:
“Mae hwn yn ganlyniad gwych i’r tîm a’r DU cyfan. Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn hanfodol i dyfu’r economi, ac mae perfformiad tîm DU, sydd wedi ennill medalau o flaen cynulleidfa fyd-eang, yn anfon neges gref bod y DU yn lle o safon fyd-eang i fuddsoddi, datblygu talent a chreu swyddi.”
Cynhaliwyd WorldSkills Lyon 2024 rhwng 10 a 15 Medi. Bydd Cystadleuaeth WorldSkills nesaf yn cael ei chynnal yn 2026 yn Shanghai, Tsieina.