Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn adnewyddu Cytundeb Partneriaeth Strategol i gryfhau perthynas waith ddibynadwy
Welsh Government and local government renew Strategic Partnership Agreement to strengthen trusted working relationship
- Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi adnewyddu'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, gan ailddatgan eu hymrwymiad i bartneriaeth ddibynadwy, cyllid teg a lleihau biwrocratiaeth.
- Mae'r Cytundeb ar ei newydd wedd, a lansiwyd yng Nghynhadledd CLlLC, yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth newydd Cymru gan adeiladu ar sylfeini cadarn y Cytundeb gwreiddiol.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi adnewyddu eu Cytundeb Partneriaeth Strategol, gan ailddatgan eu hymrwymiad i weithio gyda'i gilydd er budd cymunedau ledled Cymru.
Mae’r Cytundeb adnewyddedig hwn, a lansiwyd yng Nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yn adeiladu ar lwyddiant y Cytundeb gwreiddiol, ac yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth newydd Cymru a llywodraeth leol i ddyfnhau a chryfhau’r berthynas.
Mae'n canolbwyntio ar ailddatgan egwyddorion sylfaenol y bartneriaeth, gan gynnwys eu hymrwymiad i gyllido teg, lleihau biwrocratiaeth ac i welliant trwy'r sector.
Mae hefyd yn cynnwys cyd-ymrwymiadau newydd ynghylch cymunedau Cymraeg eu hiaith, a datblygu ac adfywio economaidd, ynghyd ag ymrwymiadau wedi'u diweddaru ar gydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad, taclo anghydraddoldebau iechyd, tlodi a cham-drin mewn gwleidyddiaeth.
Bydd ymrwymiadau gan lywodraeth genedlaethol a lleol i'r ffyrdd o weithio yn y Cytundeb diwygiedig yn sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gweld manteision ymarferol cyd-uchelgais sy'n gyson â Rhaglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Siân Gwenllian AS, Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: "Mae'r Cytundeb newydd hwn yn adlewyrchu ein penderfyniad, fel Llywodraeth newydd yng Nghymru, i adeiladu partneriaeth agos a dibynadwy gyda llywodraeth leol o'r diwrnod cyntaf.
"Cynghorau sydd ar y rheng flaen, o ran darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw bob dydd, a dwi am iddyn nhw wybod y byddwn yn gweithio gyda nhw, nid o'u cwmpas, wrth i ni roi ein blaenoriaethau ar waith er lles Cymru.
"Mae'n bwysig bod pobl ledled Cymru yn gallu gweld y gwahaniaeth y bydd y berthynas adnewyddedig hon yn ei wneud i'w bywydau a'u cymunedau."
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: “Mae partneriaeth gref rhwng llywodraeth leol a chenedlaethol yn bwysig oherwydd bod y penderfyniadau a wnawn gyda’n gilydd yn effeithio ar fywydau bob dydd pobl, o’r gofal maen nhw’n ei dderbyn a’r cartrefi maen nhw’n byw ynddynt i’w hysgolion, swyddi a chymunedau lleol.
“Mae’r cytundeb hwn yn rhoi sylfaen gyffredin i ni ar gyfer cydweithio gydag ymddiriedaeth, agoredrwydd a pharch. Drwy wrando ar gynghorau a defnyddio eu dealltwriaeth o’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, gallwn wneud penderfyniadau gwell, cefnogi gwasanaethau dan bwysau a gwella canlyniadau i bobl ledled Cymru.”