Newyddion

Canfuwyd 16 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Welsh Government

Y Tasglu Canol Trefi yn dechrau ar ei waith gyda chyhoeddi ei aelodau

  • Mae aelodau Tasglu Canol Trefi Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi, i ddod ag arbenigeddau ynghyd o fyd busnes, cynllunio, tai a llywodraeth leol.
  • Gan weithio gyda'r cyd-Gadeiryddion, bydd yr aelodau'n ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol trefi Cymru ac yn helpu i ddatblygu argymhellion ymarferol, yn seiliedig ar y dystiolaeth ar gyfer Gweinidogion Cymru.
  • Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y gefnogaeth ddiweddar i'r stryd fawr, gan gynnwys toriad o 30% yn yr ardreth ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden cymwys o 1 Ebrill 2027. Disgwylir argymhellion y Tasglu yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Welsh Government

Llywodraeth Cymru i ariannu mesurau larwm interim ar gyfer lesddeiliaid sy'n wynebu costau 'waking watch'

  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi creu Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru. 
  • O 1 Hydref 2026, bydd y gronfa yn lleihau baich costau mesurau interim drud, gan o bosibl arbed cannoedd o bunnoedd i drigolion mewn adeiladau cymwys bob mis. 
  • Efallai y bydd gan rai lesddeiliaid hawl i ad-daliadau os ydynt eisoes wedi talu am osod larymau. 
Welsh Government

Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn adnewyddu Cytundeb Partneriaeth Strategol i gryfhau perthynas waith ddibynadwy

  • Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi adnewyddu'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, gan ailddatgan eu hymrwymiad i bartneriaeth ddibynadwy, cyllid teg a lleihau biwrocratiaeth. 
  • Mae'r Cytundeb ar ei newydd wedd, a lansiwyd yng Nghynhadledd CLlLC, yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth newydd Cymru gan adeiladu ar sylfeini cadarn y Cytundeb gwreiddiol. 
Welsh Government

Hwb gwerth £2.3 miliwn ar gyfer prosiectau tai â gofal

  • Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £2.3 miliwn drwy'r Gronfa Tai â Gofal i gefnogi prosiectau tai a gofal newydd yng Nghaerffili a Sir Gaerfyrddin.
  • Bydd y cyllid yn caniatáu i fwy o bobl ag anghenion gofal a chymorth fyw'n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain, osgoi arosiadau diangen yn yr ysbyty a dychwelyd adref yn gynt.
  • Mae'r buddsoddiad yn cefnogi dull gweithredu integredig o ran tai, iechyd a gofal cymdeithasol.
Welsh Government

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o fformiwla ariannu llywodraeth leol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru er mwyn adolygu'r fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol yng Nghymru

Welsh Government

Cynllun ar gyfer Cymunedau, Seilwaith ac Adnoddau Naturiol: Llywodraeth Cymru yn lansio sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o adolygiad mawr o'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – sy'n nodi sut y dylid cynllunio a rheoli lleoedd, cymunedau, seilwaith ac adnoddau naturiol drwy'r system gynllunio yng Nghymru.  

Welsh Government

Bydd tasglu newydd yn 'hyrwyddo dyfodol canol trefi Cymru'

  • Cyhoeddwyd Tamsin Ramasut a'r Athro Simon Gibson CBE fel cyd-gadeiryddion ar gyfer y Tasglu Canol Trefi
  • Cyhoeddi £1 miliwn o gyllid newydd ar gyfer prosiectau adfywio canol trefi ym Mangor a Phen-y-bont ar Ogwr
  • Mae'r tasglu wedi'i sefydlu fel ymrwymiad 100 diwrnod y Llywodraeth
Welsh Government

Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian

Mae Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i'r digwyddiadau ynn Ngwaelod-y-garth.

Welsh Government

Cannoedd o aelwydydd i elwa o ymestyn tri chynllun allweddol i wneud tai yn fwy fforddiadw

  • Mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn tri chynllun sy'n helpu gyda chostau prynu neu adnewyddu cartrefi tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2026/27
  • Cynigiwyd cymorth i hyd at 400 o aelwydydd drwy Cymorth i Brynu – Cymru, tra bydd cynllun Cymorth i Aros Cymru yn parhau i ddarparu cymorth i berchnogion tai sy'n cael trafferth cadw i fyny â thaliadau morgais
  • Cefnogaeth i hyd at 300 eiddo gwag ac wedi eu hesgeuluso gael eu hadnewyddu a'u defnyddio eto fel cartrefi teuluol diogel ac ynni-effeithlon drwy'r Grant Cartrefi Gwag
Welsh Government

Buddsoddi er mwyn helpu i dyfu gweithlu cynllunio Cymru

  • Mae bron i £450,000 wedi'i fuddsoddi a  bydd hyd at 19 o gynllunwyr cymwys newydd yn derbyn cymorth ledled Cymru 
  • Cynllun gwledig newydd sy’n targedu prinder o fewn y gweithlu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru 
  • Bydd graddedigion sy'n siarad Cymraeg yn elwa ar ddull "Cymreig" o greu ein cynllunwyr ein hunain sydd wedi'i deilwra i ardaloedd lleol