Llywodraeth Cymru i ariannu mesurau larwm interim ar gyfer lesddeiliaid sy'n wynebu costau 'waking watch'
Welsh Government to fund interim alarm measures for leaseholders facing waking watch costs
- Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi creu Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru.
- O 1 Hydref 2026, bydd y gronfa yn lleihau baich costau mesurau interim drud, gan o bosibl arbed cannoedd o bunnoedd i drigolion mewn adeiladau cymwys bob mis.
- Efallai y bydd gan rai lesddeiliaid hawl i ad-daliadau os ydynt eisoes wedi talu am osod larymau.
Bydd lesddeiliaid yng Nghymru yn gallu hawlio cymorth at gost systemau larwm, gan leihau baich ariannol y mesurau interim sy'n ofynnol tra bod gwaith adfer yn cael ei wneud.
O 1 Hydref 2026 ymlaen, bydd lesddeiliaid mewn adeiladau cymwys yn gallu cael arian drwy Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru, sy'n rhan o Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.
Mae'r newid yn golygu na fydd yn rhaid i drigolion ysgwyddo cost y systemau larwm sydd eu hangen i gydymffurfio â'r polisi gwacáu adeilad wrth i waith adfer gael ei wneud.
Mae'r mesurau interim, fel 'waking watch' neu wella system larwm, yn golygu bod llawer o lesddeiliaid yn wynebu cannoedd o bunnoedd o gostau'r mis. Trwy helpu â'r gost o osod system larwm briodol, bydd y polisi newydd hwn yn lleihau'n sylweddol neu'n dileu'r angen am system 'waking watch' a'r baich ariannol a ddaw yn ei sgil.
Lle mae lesddeiliad eisoes wedi talu am osod larwm interim mewn adeilad cymwys, gall wneud cais am ad-daliad.
Wrth ymddangos gerbron y Senedd, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: "Ers dechrau ar y swydd hon, dwi wedi cwrdd â lesddeiliaid ac wedi gwrando ar eu straeon. mae'r hyn dw i wedi'i glywed wedi cyffwrdd yno' i. Mae eu hanesion wedi aros gyda mi, ac maen nhw wedi dylanwadu ar fy mhenderfyniad i weithredu.
"Dyna pam dwi'n falch o gyhoeddi heddiw fy mod i'n lansio Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru. Bydd y gronfa hon yn rhoi cymorth ariannol i lesddeiliaid sy'n wynebu costau systemau larwm dros dro sydd eu hangen i gefnogi polisi gwagio adeiladau."
Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar y Rhaglen Cyweirio Diogelwch Adeiladu, dywedodd y Gweinidog Cabinet ei bod wedi cwrdd â'r holl ddatblygwyr a lofnododd gontract datblygwyr Llywodraeth Cymru.
"Fe wnes i bwysleisio bod yn rhaid i'r holl rwymedigaethau o dan y contract gael eu bodloni, neu bydda i'n ystyried pob cam gorfodi posibl mewn perthynas ag unrhyw fethiannau. Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwaith adfer yn cyflymu ac i ddwyn y datblygwyr i gyfrif."
Dywedodd y Gweinidog Cabinet ei bod yn gobeithio gosod rheoliadau o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 cyn toriad y Nadolig, gan baratoi'r ffordd ar gyfer mesur pellach i amddiffyn lesddeiliaid o safbwynt adfer a ddaw i rym yn 2027.