Buddsoddiad o fwy na £19 miliwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn i helpu i dorri biliau gwresogi i aelwydydd ledled Cymru
More than £19m additional in-year investment to help cut heating bills for households across Wales
- Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £19.35m ychwanegol y flwyddyn ariannol hon mewn mesurau effeithlonrwydd ynni cartrefi a gwresogi ynni glân i helpu i ostwng biliau ynni y gaeaf hwn.
- Mae'r cyllid yn cynnwys £15.2m ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, a fydd yn darparu miloedd yn rhagor o welliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi cymdeithasol, a £4.15m ar gyfer cynllun Nyth, sy'n darparu gwelliannau ynni cartref am ddim i aelwydydd sydd fwyaf mewn angen.
- Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn parhau y flwyddyn nesaf, gyda'r gyllideb ddrafft yn dyrannu £180m, y swm mwyaf erioed, i ôl-osod at ddibenion effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio yn 2027-28.
- Amcangyfrifir y bydd un cartref ym Merthyr Tudful yn arbed cyfartaledd o £458.81 y flwyddyn ar filiau ynni ar ôl i Nyth osod boeler newydd ac inswleiddio’r atig.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £19.35m arall eleni mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni cartrefi a gwresogi ynni glân i ostwng biliau ynni a helpu gyda chostau byw y gaeaf hwn.
Mae'r cyllid yn cynnwys £15.2m ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) a £4.15m ar gyfer cynllun Nyth, sy'n darparu mesurau gwella ynni cartref am ddim i aelwydydd sydd fwyaf mewn angen.
Mae'r £15.2m ychwanegol yn codi cyfanswm ymrwymiad ORP eleni i £122m – gan ddarparu cyfanswm o tua 11,600 o fesurau gwella effeithlonrwydd ynni, megis inswleiddio, paneli solar a phympiau gwres, i gartrefi cymdeithasol ledled Cymru.
Mae targedu cyllid ORP drwy landlordiaid cymdeithasol wedi profi'n llwybr effeithiol i ddatgarboneiddio ar raddfa fawr yn y sector rhentu cymdeithasol. Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn cael effaith economaidd a chymdeithasol ehangach bwysig, gan greu swyddi lleol a helpu i hyfforddi’r gweithlu, cryfhau cadwyni cyflenwi ynni glân, a meithrin sgiliau a swyddi â chyflog da yn yr economi werdd, ledled Cymru.
Mae'r £4.15m ychwanegol i Nyth yn codi cyfanswm y buddsoddiad yn y cynllun i £42m y flwyddyn ariannol hon, gan ddarparu mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim i aelwydydd incwm isel, eu cefnogi drwy'r gaeaf anodd hwn ac adeiladu gwydnwch yn erbyn cynnydd annisgwyl mewn prisiau yn y dyfodol.
Cyfarfu Siân Gwenllian AS, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, yr wythnos hon â chwsmer Nyth ym Merthyr Tudful. Nid oedd gan Ms Ava Richardson system wresogi oedd yn gweithio ar ôl i'w boeler fethu. Gosododd Nyth foeler newydd ac inswleiddio'r atig, ac amcangyfrifir fod hynny wedi arbed cyfartaledd o £458.81 y flwyddyn iddi oddi ar ei biliau ynni.
Wrth siarad yn ystod yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Cabinet: "Mae gormod o gartrefi yng Nghymru yn oer, yn llaith ac yn ddrud i'w gwresogi. Mae stori Ava yn dangos pa wahaniaeth mae ein buddsoddiad yn ei wneud i fywydau pobl ac i'w biliau.
"Mae torri biliau a lleihau allyriadau carbon yn mynd law yn llaw, ac mae'r cyllid hwn, ar ben y buddsoddiad ychwanegol yn ein cyllideb, yn golygu y bydd gan fwy o aelwydydd gartref cynhesach a chostau ynni mwy fforddiadwy y gaeaf hwn. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fynd ymhellach ac yn gyflymach i ddatgarboneiddio tai yn gynt, lleihau tlodi tanwydd a gwella safonau byw ledled Cymru. Dyma sut rydym yn gweithredu nawr i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl."
Mae'r cyhoeddiad yn ategu’r hyn a nodwyd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sy'n darparu £180 miliwn, y swm mwyaf erioed, ar gyfer cynlluniau ôl-osod a datgarboneiddio y flwyddyn ariannol nesaf.