Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o fformiwla ariannu llywodraeth leol
Welsh Government commissions review of local government funding formula
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru er mwyn adolygu'r fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol yng Nghymru
Mae hyn yn cyflawni'r ymrwymiad 100 Diwrnod Cyntaf i gomisiynu adolygiad o'r fformiwla gyllido i lywodraeth leol, gan gyflwyno argymhellion ar gyfer ei diwygio, fel ei bod yn adlewyrchu'n well wir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddiweddaru'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i'r fformiwla, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol, sydd gyda'i gilydd yn cyfrif am bron i dri chwarter y dyraniad cyllid. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth i adlewyrchu unrhyw gostau ychwanegol sy'n deillio o niferoedd poblogaeth isel, lleoliadau cefn gwlad, amddifadedd a newid demograffig.
Mae adolygiad allanol o ddulliau ehangach o ddosbarthu wedi'i gynnwys yn y rhaglen waith arfaethedig gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a fydd yn adolygu'r dulliau dosbarthu cyllid a ddefnyddir ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
O ystyried maint a chymhlethdod yr adolygiad, ni ellir gweithredu unrhyw newidiadau ar gyfer setliad llywodraeth leol tan 2028-29 ar y cynharaf.
Trafodwyd yr adolygiad gyda llywodraeth leol yn yr Is-grŵp Cyllid, sy'n cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar 8 Gorffennaf 2026. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp ar y cynnydd hyd yn hyn, cwmpas arfaethedig yr adolygiad, a chynigion ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Roedd y grŵp yn cefnogi hyn.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian:
"Mae awdurdodau lleol ledled Cymru ar y rheng flaen o ran darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd, ac mae'n iawn bod y ffordd rydyn ni'n eu hariannu yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gyfredol o ran sut mae ein cymunedau yn newid.
"Dyna pam rydw i wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid gwneud yr adolygiad hwn mewn partneriaeth â llywodraeth leol, ac rwy'n falch bod cydweithwyr ar yr Is-grŵp Cyllid wedi cefnogi'r gwaith hyd yn hyn.
"Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod cyllid yn adlewyrchu'r pwysau gwirioneddol sy'n wynebu gwahanol rannau o Gymru, boed hynny'n awdurdod gwledig, a'r boblogaeth yn denau, neu yn ardal gyda phoblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio."
Dywedodd Dr Helen Tilley, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Llywodraeth Cymru) yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:
"Rydym yn falch iawn o gael gwahoddiad i ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr adolygiad hanfodol bwysig hwn, yn enwedig drwy ystyried sut y gallai profiadau gwledydd eraill fod yn berthnasol i Gymru.
"Mae natur drylwyr yr adolygiad yn gymesur â'r effaith sylweddol y bydd y fformiwla ddiwygiedig yn ei chael ar fywydau beunyddiol pobl ledled Cymru, yn uniongyrchol drwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn ehangach drwy ei dylanwad ar gyfranogiad yn y farchnad lafur ac, yn ei dro, economi Cymru."