Gwaith ar y gweill i ddarparu cartrefi cymdeithasol yn gyflymach

Work under way to speed up social home delivery

  • Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar hynt y gwaith o sefydlu Unnos,  sef corff datblygu cenedlaethol newydd a galluogwr tai cymdeithasol.   
  • Bydd Unnos yn dod ag arbenigedd at ei gilydd ac yn mynd i'r afael â rhwystrau a all achosi oedi o ran darparu tai. 
  • Mae gwaith bellach ar y gweill i ddatblygu'r achos busnes amlinellol, gyda phartneriaid cyflenwi yn helpu i lunio'r corff newydd. 

Mae gwaith bellach ar y gweill i sefydlu Unnos, corff datblygu cenedlaethol newydd a fydd yn helpu i ddarparu mwy o gartrefi o ansawdd da, yn gyflymach. 

Mae cartref diogel, cynnes a fforddiadwy yn angen sylfaenol i bob un ohonom. Mae'n cefnogi iechyd da, yn rhoi sefydlogrwydd i blant ac yn rhoi diogelwch i bobl weithio, cymryd rhan yn eu cymunedau a chynllunio ar gyfer eu dyfodol. 

Dyma pam y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030. 

Rydym yn gwybod bod gennym ddarpariaeth gadarn o gartrefi ledled Cymru a bod bwriad i ddarparu nifer uchel iawn o gartrefi yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon, y nifer uchaf mewn 20 mlynedd.  

Mae'r gyllideb ddrafft heddiw yn cadarnhau ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy nag erioed o'r blaen mewn tai cymdeithasol, cyfanswm o £2 biliwn, mewn dim ond 4 blynedd. Bydd hyn yn darparu'r sicrwydd a'r hyder y mae'r sector wedi bod yn galw amdanynt, i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae angen cyflawni hyn yn gyflymach, fodd bynnag, a bydd Unnos yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi a chyflawni hyn. 

Er bod buddsoddiad grant yn parhau i fod yn hanfodol, bydd Unnos yn helpu i fynd i'r afael â rhwystrau eraill a all weithiau achosi oedi l gynlluniau, fel cynllunio, tir neu gaffael, a dod o hyd i atebion ymarferol.  

Fel galluogwr tai cymdeithasol, bydd yn ategu gwaith awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a datblygwyr preifat ac yn adeiladu ar enghreifftiau presennol o gydweithio yng Nghymru, megis Llyfr Patrymau Tai ar y Cyd, y Canllaw Gweithredu Tai Gwledig a Llawlyfr Cartrefi Gwag Cymru. 

Bydd ein rhaglen gychwynnol yn canolbwyntio ar dir a phiblinellau, cynllunio a chyn-adeiladu, seilwaith, cyllid a buddsoddi, caffael a chapasiti adeiladu. 

Bydd ymgysylltu â phartneriaid cyflenwi yn agwedd ganolog ar y gwaith o sefydlu Unnos a helpu i nodi lle gall ymyrraeth genedlaethol olygu na fydd oedi o ran cynlluniau a bod cartrefi yn cael eu hadeiladu. 

Wrth ymddangos gerbron y Senedd, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: "Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru ond mae angen gweithredu'n gyflymach Mae angen Unnos er mwyn dod â'r arbenigedd cywir at ei gilydd, gan ddod o hyd i atebion ymarferol i gael gwared ar rwystrau a chreu modelau cyllido arloesol newydd. Edrychaf ymlaen at weld yr achos busnes yn cael ei lunio dros y misoedd nesaf."

DIWEDD