Cymunedau ledled Cymru i gael 'cyfle ystyrlon' i brynu asedau sy'n bwysig iddyn nhw

Communities across Wales to get 'meaningful chance’ to buy assets that matter to them

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu, er mwyn ei gwneud hi'n haws i grwpiau cymunedol ledled Cymru ddod yn berchen ar asedau lleol gwerthfawr. 
  • Ymwelodd Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio â'r Ministry of Life yn Sblot, Caerdydd, sy'n defnyddio cerddoriaeth a'r celfyddydau i roi sgiliau, cymwysterau a chyfleoedd go iawn i bobl ifanc. 
  • Anogir grwpiau a mudiadau cymunedol, perchnogion asedau, awdurdodau lleol, busnesau ac unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 4 Ionawr 2027. 

O dan y cynigion ar gyfer y Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu newydd, gallai grwpiau cymunedol ym mhob rhan o Gymru gael cyfle ystyrlon i brynu asedau lleol gwerthfawr cyn iddynt ddiflannu. 

Yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth 10 Tachwedd 2026), bydd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn y Senedd, a fyddai'n rhoi hawl i grwpiau cymunedol cymwys gael rhoi'r cynnig cyntaf am ased cofrestredig pan fydd y perchennog yn penderfynu ei werthu a chael amser i ddatblygu cynlluniau a sicrhau cyllid. 

Mae hyn yn golygu y gallai grŵp cymunedol ddod yn berchen ar ganolfan gymunedol, parc neu fan gwyrdd neu hyd yn oed tafarn neu siop yn ei ardal. O dan y Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu: 

  • Gallai grwpiau cymunedol enwebu ased i'w gofrestru oherwydd y manteision cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd y mae'n eu rhoi i'r gymuned; 
  • Gallai asedau a arferai fod yn werthfawr i'r gymuned hefyd fod yn gymwys os oes posibilrwydd realistig o adfer y budd hwnnw. 
  • Os ydy ased cofrestredig yn cael ei roi ar werth, byddai'r Cynllun yn rhoi hawl i grŵp cymunedol cymwys gael y cynnig cyntaf i'w brynu a chael amser i wneud hynny; 
  • Ni fydd cofrestru ased yn golygu bod perchennog yn gorfod ei werthu. Dim ond pan fydd y perchennog yn penderfynu ei werthu y bydd gan y gymuned yr hawl i'w brynu. 

Mae'r Gweinidog Cabinet newydd ymweld â chanolfan gymunedol yn y Sblot, Caerdydd, sy'n eiddo i'r Ministry of Life, i gwrdd â staff a phobl ifanc a gweld drosti'i hun y gwahaniaeth y gall sefydliad sy'n eiddo i'r gymuned ei wneud. 

Cafodd y Ministry of Life ei sefydlu yn 2008 i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith ac i fagu profiad o reoli digwyddiadau a phrosiectau. Mae wedi rhoi mwy na 170 o achrediadau, gan gynnwys Agored Cymru, Cerddoriaeth Gymunedol Cymru a BTEC lefelau 1, 2 a 3. 

Dywedodd y Gweinidog Cabinet: "Os yw ased yn bwysig i gymuned, dylai pobl leol gael cyfle go iawn i ddiogelu ei ddyfodol a'r manteision y gall eu rhoi i genedlaethau'r dyfodol.  

"Mae'r Ministry of Life yn enghraifft wych o'r hyn y gall eiddo cymunedol ei wneud, a'r math o sefydliad y mae'r cynigion hyn wedi'u creu i'w gefnogi. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ddarllen yr ymgynghoriad a dweud wrthym beth maen nhw'n ei feddwl." 

Mae Florence, sy'n wreiddiol o Nigeria, newydd raddio mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Cwblhaodd leoliad dwy flynedd gyda'r Ministry of Life ac mae bellach yn gweithio i'r sefydliad.

Dywedodd: “Mae hwn yn fwy nag adeilad. Mae’n lle saff y mae pobl ifanc yn cael dod iddo am gymorth gan oedolion dibynadwy, waeth beth maen nhw’n mynd trwyddo. Mae cael mynd i rywle sy’n cynnig croeso, clust i wrando a chynhaliaeth yn gwneud byd o wahaniaeth i fywyd rhywun. Mae’n wych meddwl y gallai mwy o grwpiau cymunedol ddod yn berchen ar lefydd fel hyn, sy’n dod â lles go iawn i bobl leol.” 

Mae Kiera, 21, yn fyfyrwraig lefel sylfaen ar leoliad gyda'r Ministry of Life drwy Brifysgol Caerdydd. Ar ôl iddi hi ei hun fynychu clybiau ieuenctid, mae hi bellach yn ymwneud â llawer o'r clybiau y mae'r sefydliad yn eu rhedeg.

Dywedodd: "Mae’r adeilad hwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc fynegi eu hunain yn gyfforddus a chael cefnogaeth gan bobl broffesiynol sy’n deall eu hanghenion. Mae popeth yn seiliedig ar anghenion y bobl ifanc, fel eu bod yn dysgu sut i ymdrin â brwydrau bywyd trwy weithgareddau sy’n addas iddyn nhw. Mae hefyd yn rhoi lle diogel a gofalgar iddyn nhw gyda’u cyfoedion, yn hytrach nag ar y strydoedd, gyda gweithwyr ieuenctid i’w harwain wrth iddyn nhw gamu trwy fywyd. Mae llefydd fel hwn, sy’n eiddo i’r gymuned, yn gwneud y math hwnnw o gefnogaeth yn bosib.”

Dywedodd Jonathan Gunter, Pennaeth y Ministry of Life: Mae’r adeilad eisoes wedi gwneud byd o wahaniaeth. Dros y 18 mlynedd diwethaf, ar ôl derbyn cefnogaeth yn y lle cyntaf gan Cymunedau’n Gyntaf Adamstown, cefais weld pan oeddwn i fy hun yn berson ifanc pa mor anodd yw hi weithiau i fudiadau cymunedol bach gael eu cymryd o ddifrif.

“Mae bod yn berchenogion ar 95 Broadway wedi rhoi hyder a gallu i’n tîm, ac mae wedi dangos i bartneriaid a chyllidwyr ein bod o ddifrif ynghylch buddsoddi yn ein pobl ifanc ac yn nyfodol tymor hir y mudiad.  

"Mae hyd yn oed y daith tuag at agor yr adeilad wedi creu cyfleoedd newydd a chanlyniadau positif i bobl ifanc, felly rydyn ni’n disgwyl mlaen yn fawr at weld beth fydd yn bosibl pan fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio’n llawn. “

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 4 Ionawr 2027. Anogir grwpiau cymunedol, perchnogion asedau, awdurdodau lleol, busnesau ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn perchnogaeth gymunedol i ymateb. Bydd yr ymatebion yn helpu i lywio'r polisi terfynol a'r gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth.