Y Tasglu Canol Trefi yn dechrau ar ei waith gyda chyhoeddi ei aelodau
Town Centre Taskforce gets to work as full membership announced
- Mae aelodau Tasglu Canol Trefi Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi, i ddod ag arbenigeddau ynghyd o fyd busnes, cynllunio, tai a llywodraeth leol.
- Gan weithio gyda'r cyd-Gadeiryddion, bydd yr aelodau'n ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol trefi Cymru ac yn helpu i ddatblygu argymhellion ymarferol, yn seiliedig ar y dystiolaeth ar gyfer Gweinidogion Cymru.
- Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y gefnogaeth ddiweddar i'r stryd fawr, gan gynnwys toriad o 30% yn yr ardreth ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden cymwys o 1 Ebrill 2027. Disgwylir argymhellion y Tasglu yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Mae aelodaeth lawn Tasglu Canol Trefi Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw, wrth i'r aelodau ddod ynghyd ar gyfer eu cyfarfod cyntaf i ddechrau ar gam nesaf y gwaith.
Cafodd y Tasglu Canol Trefi ei sefydlu i ddarparu cyngor ymarferol, arbenigol ar ddyfodol canol trefi. Cyhoeddwyd ei gyd-Gadeiryddion, yr Athro Simon Gibson CBE a Tamsin Ramasut, ar 11 Awst.
Mae'r Tasglu yn dwyn ynghyd arbenigwyr o fyd busnes, y byd academaidd, llywodraeth leol, adfywio, cynllunio, trafnidiaeth, tai a chymunedau. Gan weithio gyda'r cyd-Gadeiryddion, bydd yr aelodau yn ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol trefi Cymru ac yn helpu i ddatblygu argymhellion ymarferol, yn seiliedig ar y dystiolaeth ar gyfer Gweinidogion Cymru.
Gellir gweld yr aelodaeth lawn yn www.llyw.cymru/tasglu-canol-tref
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: Mae canol ein trefi yn newid. Nid lleoedd i siopa yn unig ydyn nhw mwyach, ond lleoedd i fyw, gweithio, cael at wasanaethau a chyfrannu at fywyd cymunedol. Bydd y Tasglu hwn yn edrych ar sut y gallan nhw barhau i esblygu fel lleoedd amrywiol, defnydd cymysg sy'n cefnogi busnesau a chymunedau.
"Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar y gweill, gan gynnwys cymorth parhaol ar yr ardreth i fusnesau a fydd, o gael cymeradwyaeth y Senedd, yn golygu gostyngiad o 30% yn eu biliau ardrethi i fusnesau lletygarwch a hamdden cymwys o fis Ebrill 2027 ymlaen.
"Rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n rhoi o'u hamser a'u harbenigedd. Rhaid i'r Tasglu hwn fod yn uchelgeisiol ond yn ymarferol, gan gynnig argymhellion go iawn yn hytrach nag ailddatgan yr heriau, er mwyn i ni allu adeiladu canol trefi bywiog a gwydn ledled Cymru."
Dros y misoedd nesaf, bydd y Tasglu yn cynnal rhaglen waith drwyadl i helpu i lunio'r argymhellion fydd yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru yn y flwyddyn newydd.