Llywodraeth Cymru: £250miliwn tuag at 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu
Welsh Government: £250million towards 20,000 low carbon homes for rent
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyblu ei gwariant ar dai cymdeithasol i'w rhentu, gan ymrwymo £250miliwn cychwynnol yn 2021/22 ar gyfer 20,000 o gartrefi carbon isel newydd.
Bydd y cynlluniau uchelgeisiol yn mynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai a'r argyfwng hinsawdd, gan ddarparu cartrefi gwyrdd fforddiadwy o ansawdd da i'r rhai sydd eu hangen.
Bydd pob cartref yn cael ei adeiladu i safonau ansawdd ac amgylcheddol newydd gwych gyda'r nod i rai o'r stoc fynd y tu hwnt i sero net a chynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio. Disgwylir cyhoeddiad pellach ar hyn cyn diwedd y mis hwn.
Wrth ymweld ag un o gynlluniau tai cymdeithasol 'ynni cadarnhaol' cyntaf Cymru heddiw, dywedodd y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd sy'n gyfrifol am dai, Julie James, fod cynllun Rhiw Cefn Gwlad Wales and West Housing ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 'esiampl' i ddatblygwyr, cymdeithasau tai a chynghorau ei dilyn.
Mae'r datblygiad o 14 o gartrefi wedi defnyddio'r datblygiadau technegol diweddaraf mewn ynni adnewyddadwy, o bympiau gwres aer ecsôst wedi'u hintegreiddio ag awyru mecanyddol, i systemau to ffotofoltäig solar mawr ynghyd â system batri Tesla.
Derbyniodd y trigolion a symudodd i mewn ym mis Ionawr eleni eu bil ynni negyddol cyntaf ym mis Mawrth, sy'n golygu bod yr ynni dros ben y mae eu cartrefi wedi'i gynhyrchu eisoes wedi'i bwmpio'n ôl i'r grid cenedlaethol.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae clywed faint mae Cai, Allyn a thrigolion eraill wedi bod yn arbed ar filiau eu cartref heddiw, a'r gwahaniaeth y mae eu cartref newydd wedi'i wneud i'w lles, yn atgyfnerthu fy hyder bod ein cynllun tai uchelgeisiol yn mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.
"Rydym wedi dyblu ein harian - gan ymrwymo chwarter biliwn o bunnoedd y flwyddyn ariannol hon, fel y gallwn fwrw ymlaen ac adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu.
"Mae hyn yn mynd y tu hwnt i amcangyfrifon o anghenion tai Cymru.
"Rydym yn adeiladu ar raddfa i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw, digartrefedd, yr argyfwng cynyddol o ran ail gartrefi, a'r argyfwng hinsawdd. Rydym yn adeiladu cartrefi o safon uchel i wneud gwahaniaeth i ansawdd byw pobl. Ac rydym yn sicrhau mai'r penderfyniadau a wnawn heddiw yw'r rhai cywir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Symudodd Cai Phillips a'i bartner Abigail Rees i'w cartref 2 ystafell wely yn Rhiw Cefn Gwlad gyda'u merch dair oed Olivia ar ôl byw gyda'u rhieni ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Cai:
"Mae'r systemau sydd wedi'u cynnwys yn y tŷ yn hawdd iawn i'w defnyddio. Mae'r tŷ wedi'i inswleiddio gystal fel nad yw'r tymheredd yn gostwng yn is na 20 gradd. Hyd yn oed ar rai o'r dyddiau oeraf yn y gaeaf doedd dim angen i ni roi'r gwres ymlaen.
"Dwi'n gallu rheoli'r gwres o ap ar fy ffôn, ac rydw i wedi dysgu sut i arbed ynni drwy ddefnyddio'r batri i hunan-bweru'r tŷ. Dim ond £20y£ mis rydyn ni yn ei dalu am ein biliau trydan a rydym mewn credyd ar ein biliau, sy'n rhyfeddol. Mae'r tŷ yn berffaith."
Symudodd Allyn King, ei wraig Anne-Marie a'u tri phlentyn rhwng 10 a 17 oed, i'w tŷ 4 ystafell wely newydd yn Rhiw Cefn Glwad ym mis Ionawr 2021.
Cyn symud i Rhiw Cefn Gwlad roedd y teulu'n gwario tua £250 y mis ar drydan a nwy ar gyfer gwresogi, golchi a sychu. Mae eu taliadau wedi lleihau'n sylweddol diolch i'r technolegau sydd wedi'u cynnwys yn y cartrefi.
Dywedodd Allyn:
"Mae'r tŷ yn anhygoel. Yn ein hen dŷ roeddem yn gwario tua £250 ar drydan a nwy ar gyfer gwresogi, golchi a sychu. Nawr rydyn ni’n talu £19.33 y mis o ddebyd uniongyrchol ar ein trydan. Rydyn ni wedi cronni mwy na £250 mewn credyd yn ystod yr haf a fydd o gymorth mawr wrth fynd i mewn i'r gaeaf.
"Mae'r batri'n wych, mae'n storio'r trydan o'r to ar gyfer pan fydd ei angen arnom. Mae gen i ap ar fy ffôn hefyd er mwyn i mi allu rheoli'r gwres a'r dŵr poeth pan fyddaf oddi cartref i arbed hyd yn oed mwy o ynni.
"Mae'r arian ychwanegol rydyn ni'n ei arbed ar ein cartref wedi ein galluogi i wario mwy ar fwyd iach, ffres a chynilo ar gyfer gwisgoedd ysgol ac achlysuron arbennig ein plant."