Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021
Welsh Government extends measures to protect businesses from eviction until end of September 2021
Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y Coronafeirws yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu tenantiaeth am beidio â thalu rhent tan 30 Medi 2021. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin 2021.
Bydd y cam hwn yn fodd i sicrhau, tan 30 Medi eleni, na fydd busnesau’n fforffedu eu tenantiaethau busnes am beidio â thalu rhent, ond dylent barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd, ac mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.
Bydd y mesur hwn yn helpu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ar adeg sy'n parhau’n gyfnod masnachu hynod heriol, tra bydd y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws yn cael eu llacio.
Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £2.5 biliwn wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru, ac mae mwy o arian yn cyrraedd cwmnïau bob dydd. Mae’r pecyn cymorth busnes sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi Lywodraeth y DU, ac mae'n un o'r rhai mwyaf hael yn y DU. Yn ogystal, yn wahanol i Loegr, mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn para drwy gydol 12 mis y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cam hwn yn cael ei gefnogi gan £380 miliwn eleni i helpu er mwyn rhoi amser i ryw 70,000 o fusnesau anadlu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn brofiad hynod ofidus inni i gyd, yn enwedig i fusnesau a gweithwyr ym mhob cwr o Cymru. Rydyn ni wedi defnyddio pob sbardun posibl i'w cefnogi yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau swyddi a bywoliaeth i bobl. Dyna pam dw i’n cyhoeddi heddiw estyniad arall i’r mesurau i atal busnesau rhag fforffedu eu tenantiaethau am beidio â thalu rhent, a fydd yn diogelu busnesau rhag cael eu troi allan.
"Ers dechrau'r pandemig, rydyn ni wedi ymrwymo mwy na £2.5 biliwn i fusnesau ledled Cymru, yn ogystal â'r cymorth arferol rydyn ni’n ei roi drwy Busnes Cymru. Mae busnesau yn y sectorau sydd wedi dioddef waethaf yn dal i elwa hefyd ar becyn rhyddhad ardrethi busnes a fydd ar gael am 12 mis llawn.
“Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn wedi helpu i ddiogelu miloedd o gwmnïau a diogelu llawer mwy o swyddi. Mae'n rhan allweddol o'n cynlluniau i roi hwb i adferiad cryf yng Nghymru ar ôl pandemig.
"Rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i gefnogi cwmnïau o Cymru.”
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar sut y mae'n bwriadu mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn ystod y misoedd sydd i ddod i ystyried sut i ymdrin â’r mater hwn yng Nghymru.