English icon English
PO 200521 Miles 25-2

Llywodraeth Cymru yn nodi trefniadau pum mlynedd nesaf Cymraeg 2050

Welsh Government sets out the next five years for Cymraeg 2050

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050, y strategaeth genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r Rhaglen Waith, yr ail ers lansio Cymraeg 2050 yn 2017, yn nodi’r polisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd targedau 2050.

Yn ogystal â chyrraedd miliwn o siaradwyr, mae nod hefyd i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.

Un o'r cerrig milltir interim yw sicrhau bod 30% o blant Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2031. I helpu i gyflawni hynny, mae'r Rhaglen newydd yn gosod targed i gynyddu canran y plant ym Mlwyddyn 1 a addysgir yn Gymraeg i 26% erbyn 2026, o 23% y llynedd. Byddai hyn yn cael ei gymell drwy agor o leiaf 60 o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg ychwanegol erbyn 2026, yn ogystal â’r 40 a agorwyd dros y pedair blynedd ddiwethaf. 

Disgwylir i ganlyniadau Cyfrifiad 2021, y data swyddogol a ddefnyddir i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg, gael eu cyhoeddi erbyn mis Mawrth 2023. Ynghyd â data o'r Arolwg Defnydd Iaith, bydd y Cyfrifiad yn rhoi syniad cynnar o gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu a'i datblygu gan ystyried y canlyniadau, ochr yn ochr â data eraill. 

Ymhlith y camau gweithredu a nodir yn y Rhaglen Waith, mae:

  • Cyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg
  • Cyflwyno cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg
  • Gwella cyrhaeddiad disgyblion yn y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Datblygu rhaglen i gefnogi defnydd o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar bontio rhwng addysg, y gymuned, y teulu a'r gweithle
  • Creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg a defnyddio ysgogiadau economaidd i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith
  • Adnewyddu’r ffocws ar fanteision defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei hymateb i adroddiad diweddar ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu ei ffocws ar ddatblygu a grymuso cymunedau wrth gynllunio’n ieithyddol, gan weithio gyda phartneriaid yn y gymuned i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Mae ein gweledigaeth ar gyfer ein hiaith yn un eangfrydig a chynhwysol ac rwyf am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom. Mae Cymraeg 2050 yn strategaeth hirdymor sy'n nodi cynllun a gweledigaeth ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog sydd â'r gallu a'r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Drwy gyhoeddi'r ddogfen hon yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth hon, rydym yn cynnal y momentwm sydd wedi tyfu ers 2017 ac yn rhoi syniad clir i'n partneriaid o'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.

"Rhaid inni gynllunio'n ofalus ac yn bendant i gynyddu nifer y plant a’r oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Rhaid inni greu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt a rhaid inni sicrhau bod yr amodau cywir yn bodoli i bobl ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd, boed hynny mewn cymunedau daearyddol neu rai rhithiol, mewn gweithleoedd neu mewn mannau cymdeithasol.

"Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid ledled Cymru i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fwynhau dysgu a defnyddio'r Gymraeg."