English icon English
BLM-2

Llywodraeth Cymru'n gweithredu i atal hiliaeth. Mae'n amser newid.

Welsh Government takes action against racism. It’s time for real change.

Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, flwyddyn ar ôl marwolaeth George Floyd.

Flwyddyn ar ôl llofruddiaeth drasig George Floyd yn yr Unol Daleithiau, ailbwysleisiodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wirioneddol wrth-hiliol.

Dywedodd Jane Hutt:

"Heddiw rydym yn nodi blwyddyn ers llofruddiaeth drasig a ffiaidd George Floyd yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn galaru ei farwolaeth a marwolaeth pawb sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau oherwydd hiliaeth.

Rydym yn sefyll mewn undod â phawb sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb ac am roi terfyn ar hiliaeth sefydliadol. Rwyf am ei gwneud yn glir y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn brwydro dros gymdeithas fwy cyfartal a chyfiawn.

Nid oes lle i hiliaeth a phob math o gasineb a rhagfarn yn ein cymdeithas."

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd y dyddiad hwn a phwysigrwydd gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â hiliaeth, amlinellodd Jane Hutt nodau allweddol Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jane Hutt:

"Nid yw mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yn ymwneud â geiriau'n unig, mae'n ymwneud â'n gweithredoedd. Dim ond drwy wrando a gweithredu y gallwn sicrhau newid gwirioneddol.

Dyna pam rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft at ddibenion ymgynghori ar 24 Mawrth. 

Bydd y Cynllun, a ddatblygwyd ar y cyd, yn ein helpu i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydym i gyd am ei gweld.

Bwriedir iddo fod yn Gynllun ymarferol, sy'n amlinellu camau penodol i'w cymryd ar draws yr holl feysydd polisi allweddol a ddeilliodd o'n gwaith datblygu ar y cyd.

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo iddo ac yn atebol amdano.

Mae bod yn wrth-hiliol yn gofyn i ni i gyd wneud ymdrech ymwybodol a gweithgar i herio hiliaeth lle bynnag y gwelwn ni hynny.

Mae cymaint i'w wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb systemig hirdymor a hiliaeth. Dyna pam rydym am i bob rhan o gymdeithas Cymru ymgysylltu â'r ymgynghoriad a'n helpu i'w gyflawni. 

Mae’n amser am newid. Yr amser i daclo hiliaeth yw nawr”