English icon English
welsh flag-3

"Mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli cronfeydd yr UE yn golled ariannol i Cymru ac yn ymosodiad bwriadol ac annerbyniol ar ddatganoli yng Nghymru" – Vaughan Gething

“UK Government plans to replace EU funds fails Wales financially and is a deliberate and unacceptable assault on Welsh devolution” – Vaughan Gething

Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i osgoi Llywodraeth Cymru a dyrannu cyllid yn uniongyrchol ar gyfer datblygu rhanbarthol a lleol drwy gronfeydd y DU gyfan yn ymosodiad clir ar ddatganoli yng Nghymru ac nid yw yn bodloni addewidion mynych yn ystod ymgyrch refferendwm yr UE na fydd Cymru "geiniog yn dlotach" y tu allan i'r UE, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw.

Mewn dadl yn y Senedd ar Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU a'r Gronfa Gyffredin yn y dyfodol, dywedodd y Gweinidog, o dan gynlluniau Llywodraeth y DU, bydd gan Gymru lai o gyfle i leisio barn, dros lai o arian, gan rwystro buddsoddiad yng Nghymru a’r swyddi fyddai wedi’u creu yn ystod cyfnod pan rydym yn parhau I ddod o hyd i lwybr tuag at adferiad o’r pandemig. 

O dan gynlluniau Llywodraeth y DU:

  • Mae'r cynllun peilot i'r Gronfa Ffyniant a Rennir, o'r enw Cronfa Adnewyddu'r Gymuned, yn werth £220 miliwn ledled y DU yn y flwyddyn ariannol hon, sef gostyngiad enfawr. Pe bai'r DU wedi aros yn yr UE, byddai Cymru wedi cael cyllid Strwythurol newydd yr UE gwerth o leiaf £375 miliwn bob blwyddyn am saith mlynedd o fis Ionawr 2021. Byddai hyn yn ychwanegol at gyllid o raglenni presennol yr UE.
  • O dan Gronfa Codi’r Gwastad gwerth £4.8 biliwn ledled y DU, mae cyfanswm o £800 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd, gyda Chymru'n debygol o dderbyn £10 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn llai nag oddeutu £450,000 fesul awdurdod lleol yng Nghymru, gan gadarnhau nad oes sylwedd y tu ôl I frand Codi’r Gwastad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU mai dim ond mewn ffordd y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru y dylid defnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf Marchnad Fewnol y DU – pwerau a gynlluniwyd i ddefnyddio swyddogaethau sy'n rhan o gymhwysedd y Senedd a Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae'r cynigion hyn yn y DU yn cynrychioli cyfnod newydd o ganoli ymosodol. Un sy'n cyflwyno neges glir iawn i Gymru: 'cewch yr hyn a roddir i chi.'

"Mae'n ddull sy'n ysgogi rhaniad yn seiliedig ar resymeg economaidd sy'n anodd ei ddeall, heb sôn am ei gymeradwyo.

"Yn waeth byth, mae mynd yn ôl at bolisi economaidd cyn datganoli yn ymosodiad bwriadol ar ddatganoli yng Nghymru. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd gan Gymru lai o lais, dros lai o arian.

"Gwnaeth Llywodraeth Cymru ein gwrthwynebiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU yn glir, gan ddadlau mai dim ond mewn ffordd y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru a'r Senedd y dylid defnyddio'r pwerau hyn.

"Mae'r cronfeydd arfaethedig wedi'u cynllunio'n glir i eithrio Llywodraeth Cymru yn systematig.  Yng nghyd-destun dwyn pwerau, mae hyn yn haerllyg o amlwg.

"Nid yw effaith yr ymosodiad brwnt hwn ar ddatganoli yng Nghymru hyd yn oed yn cael ei leddfu gyda chynnig o arian ychwanegol newydd i Gymru.

"Ein barn ni o hyd yw y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru. Dyma’r safbwynt sydd wedi ei gefnogi gan bobl Cymru yn gyson, gan gynnwys yn etholiadau Seneddol 2021."

Dywedodd y Gweinidog hefyd fod gan Lywodraeth Cymru bryderon am effaith cynlluniau Llywodraeth y DU ar ymyriadau strategol allweddol sy'n dibynnu ar gyllid yr UE sydd bellach yn dod i ben. Mae'r rhain yn hanfodol i adferiad Cymru o ran Covid a, heb gyllid gan Lywodraeth y DU yn lle cyllid yr UE, mae swyddi a gwasanaethau hanfodol yn cael eu peryglu.

Mae’r ffaith nad oes unrhyw gyllid gan yr UE i gefnogi cynllun Prentisiaethau Cymru gyfan yn golygu bod bron i 5,300 yn llai o gyfranogwyr yn cael eu cefnogi'n flynyddol. Cefnogir bron i hanner Cronfa Busnes Cymru, dan arweiniad Banc Datblygu Cymru, gan gronfeydd yr UE, a fydd yn golygu bod cannoedd yn llai o fusnesau'n cael cymorth ariannol i ddatblygu a chreu swyddi.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Mae gan Lywodraeth Cymru fandad cryf o'r newydd ar gyfer datganoli ac i lywodraethu ar ran pobl Cymru. Nid sarhad ar bobl Cymru yn unig yw osgoi sefydliadau etholedig Cymru, a bydd yn amlwg yn arwain at ganlyniadau gwaeth i Gymru. 

"Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch ffyniant Cymru yn y dyfodol, rhaid iddi roi cyfran deg o wariant y DU i Gymru, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon nid mewn ffordd annilys, ond fel partner dilys yn y broses o wneud penderfyniadau a chyflawni. Rhaid iddo beidio â cheisio mynd â phethau'n ôl i ffordd hen ffasiwn o weithio pan oedd San Steffan yn credu mai hwy oedd yn gwybod orau. Bydd hyn yn wrthgynhyrchiol."