Mesurau Cadw Dan Do a Bioddiogelwch Gorfodol newydd i ddiogelu rhag Ffliw’r Adar
New compulsory biosecurity and housing measures to further protect against AI
Mae mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer dofednod ac adar caeth yng Nghymru, gan fod y dystiolaeth o sefyllfa’r ffliw adar yn awgrymu y bydd risg y clefyd yng Nghymru yn cynyddu dros fisoedd y gaeaf
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Interim Cymru, y Dr Gavin Watkins, bod y camau hyn yn cael eu cymryd nawr oherwydd y cynnydd posibl yn feirws y ffliw adar yn yr amgylchedd ac i gryfhau’r mesurau pwysig a gyflwynwyd ym mis Hydref trwy Barth Atal Ffliw Adar Cymru.
Daw’r mesurau newydd i rym yng Nghymru ddydd Gwener, 2 Rhagfyr.
O’r dyddiad hwnnw, bydd yn ofyn cyfreithiol ar bawb sy’n cadw adar i gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu mewn ffordd arall oddi wrth adar gwyllt. Rhaid i bob ceidwad adolygu hefyd y mesurau bioddiogelwch ar y safle lle cedwir yr adar a gweithredu ar hynny. Diben hyn yw cadw’r feirws rhag mynd i siediau’r adar, gan fod y feirws yn farwol i lawer o adar.
Mae’r mesurau hyn yn ychwanegol at y rheini ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy’n parhau’n hynod bwysig.
Mae’r Dr Watkins yn annog ceidwaid adar i baratoi ar gyfer y mesurau newydd, trwy wneud yn siŵr bod eu siediau adar yn addas, a’u bod yn cael eu gwella i amddiffyn lles yr adar. Cynghorir ceidwaid i ofyn barn eu milfeddyg os oes angen cyngor arnynt.
Er mwyn i’r mesurau cadw adar dan do fod yn effeithiol, rhaid hefyd wrth fesurau bioddiogelwch llym i gadw’r feirws allan. Y ffordd orau o wneud hynny yw cwblhau rhestr bioddiogelwch sy’n orfodol i bob ceidwad.
Mae achosion digynsail o ffliw’r adar wedi cyrraedd Prydain Fawr ac Ewrop yn 2022.
Mae risg y feirws i iechyd pobl yn dal yn fach iawn ac mae’r cyrff safonau bwyd wedi dweud bod risg ffliw’r adar i ddiogelwch bwyd siopwyr y DU yn fach iawn.
Dywedodd y Dr Watkins: Mae’r data diweddara’n awgrymu y bydd ffliw’r adar yn lledaenu tua’r gorllewin i Gymru yn y misoedd nesaf gan gynyddu’r risg y caiff adar yn yr awyr agored eu heintio am fod y feirws yn byw’n hirach ac wrth i adar gwyllt sy’n cario’r feirws ei ledaenu ymhellach. Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth, rydyn ni am gymryd camau pellach i helpu i amddiffyn dofednod ac adar caeth. Bydd y mesurau cadw dan do a bioddiogelwch rydym yn eu cyflwyno yng Nghymru yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i’r adar ac yn cryfhau’r sector dofednod. Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cadw adar am y camau y maen nhw wedi’u cymryd i ddiogelu adar yng Nghymru rhag y clefyd dinistriol hwn. Rydym yn gwybod bod y camau hynny wedi amddiffyn adar. Bydd y mesurau a gyhoeddir heddiw’n adeiladu ar y gwaith hwnnw. O’u rhoi ar waith yn drylwyr, caiff ein hadar eu diogelu.”