Meysydd chwarae, ffeiriau a chanolfannau cymunedol yn cael ailagor – Y Prif Weinidog
Playgrounds, funfairs and community centres to reopen – First Minister
Bydd meysydd chwarae, ffeiriau a chanolfannau cymunedol yng Nghymru’n cael ailagor ddydd Llun, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw (Gwener, 17 Gorffennaf).
Bydd campfeydd awyr agored hefyd yn cael ailddechrau fel rhan o’r mesurau diweddaraf i godi cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru.
Dyma ail ran pecyn o fesurau i ailagor rhannau mawr o’r sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden yng Nghymru. Maen nhw’n rhan o’r adolygiad diweddaraf o reoliadau’r coronafeirws a gynhelir bod 21 niwrnod ac a gyhoeddwyd wythnos ddiwethaf.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Byddwn yn dal i edrych yn ofalus ar y dystiolaeth feddygol a gwyddonol ddiweddaraf ac ar gyflwr y feirws wrth benderfynu sut i ddatgloi cymdeithas a’r economi.
“Gyda chyfraddau’r feirws yn dal i gwympo yng Nghymru, gallwn barhau i raddol godi’r cyfyngiadau, gam wrth gam.
“O ddydd Llun, bydd meysydd chwarae a champfeydd awyr agored yn cael ailagor. Bydd canolfannau cymunedol yn cael cynnal mwy o weithgareddau gan gynnwys helpu awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau chwarae a gofal plant dros wyliau’r haf.
“Bydd ffeiriau hefyd yn cael ailagor gan eu bod wedi cael amser i feddwl sut i roi mesurau priodol ar waith cyn bod eu cwsmeriaid yn dychwelyd. Hyn oll ar ôl ailagor atyniadau dan do ac awyr agored yn yr wythnosau diwethaf.
“Er bod codi’r cyfyngiadau’n golygu bod y llefydd hyn yn cael ailagor, nid oes gorfodaeth arnyn nhw i wneud. Gallai pryd yn union maen nhw’n ailagor amrywio wrth i berchenogion asesu’u sefyllfa a gwneud y newidiadau angenrheidiol.
“Wrth i ni gymryd y camau gofalus hyn, peidiwch da chi â meddwl bod y feirws wedi gadael y tir. Gallai’n holl waith caled fynd yn ofer yn rhwydd iawn os na wnawn ni ddal ati i wneud ein rhan ym mhob ffordd i gadw Cymru’n ddiogel.”
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gofyn i nifer o fusnesau eraill ddechrau paratoi ar gyfer ailagor o 27 Gorffennaf, os bydd amodau’n caniatáu. Y busnesau hynny yw:
- Gwasanaethau lle mae pobl yn dod i gysylltiad agos â’i gilydd, gan gynnwys salonau harddwch ac ewinedd a busnesau lliw haul, massage, tyllu’r corff, tatŵs, electrolysis ac aciwbigo.
- Sinemâu, amgueddfeydd, orielau ac archifdai dan do.
Llety i dwristiaid, â chyfleusterau wedi’u rhannu, fel meysydd pebyll - yn cael agor o 25 Gorffennaf. - Ailagor y farchnad dai’n llawn.
Os gwelwn y sectorau hyn ym ailagor yn llwyddiannus a bod amodau’n caniatáu, bydd lleoedd dan do fel tafarndai, bariau, caffis a bwytai’n cael ailddechrau o 3 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o reoliadau’r coronafeirws.