English icon English

Miloedd o ffermydd yng Nghymru’n cael eu talu

Thousands of Welsh farms to receive payments

Bydd rhagor na 15,600 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o fwy na £161m pan fydd rhagdaliadau Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) 2022 yn cael eu talu fory (Gwener 14 Hydref), meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Mae hynny’n golygu y bydd 97% o hawlwyr yn cael rhagdaliad, 70% o werth bras eu hawliad BPS llawn.

Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) dalu rhagdaliadau BPS yn awtomatig ym mis Hydref.

Cyn 2021, fyddai’r BPS ddim yn dechrau cael ei dalu tan 1 Rhagfyr bob blwyddyn.

Yn sgil newid y rheoliadau gan y Gweinidog ar ôl diwedd Cyfnod Pontio Ymadael â’r UE, cafodd y gofynion ar gyfer BPS eu symleiddio gan ei gwneud yn bosib talu rhagdaliadau BPS i hawlwyr cymwys cyn mis Rhagfyr. Ond ceir nifer o resymau pam na fydd rhai hawlwyr yn cael rhagdaliad BPS, gan gynnwys anghydfod tir, gweld yn ystod archwiliad bod rheol wedi’i thorri neu broblemau â’r profiant.

Dechreuir talu gweddill BPS 2022 neu’r taliadau llawn o 15 Rhagfyr 2022 cyn belled â bod yr hawliad yn bodloni’r holl amodau.

Rydyn ni’n rhagweld y bydd modd dilysu’r holl hawliadau BPS heblaw am y rhai mwya cymhleth, a’u talu i gyd cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2023.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Ers symleiddio rheolau’r BPS, rydym wedi cael talu’r rhagdaliadau cyn mis Rhagfyr. Mae hynny’n rhoi sicrwydd ariannol i fusnesau fferm mewn cyfnod aruthrol o anodd.

“Hefyd, yma yng Nghymru, rydym wedi cadw cyllideb y BPS i £238m, yr un faint â’r llynedd.

“Caiff y balans sydd heb ei dalu a thaliadau BPS llawn eu talu ar ôl 15 Rhagfyr a bydd fy swyddogion yn gweithio’n galed eleni eto i dalu cymaint o ffermwyr â phosibl yn fuan yn y cyfnod talu.”